Gyda Gogledd Cymru yn parhau i arloesi mewn ynni glân, bydd Menter Môn yn cynrychioli Cymru yn y World Hydrogen Summit yn Rotterdam y mis hwn. Dyma’r digwyddiad mwyaf yn y byd sy’n rhoi llwyfan yn benodol i brosiectau a thechnoleg hydrogen. Bydd arweinwyr y diwydiant, arloeswyr a llunwyr polisi yn dod ynghyd i rannu arfer dda, y newyddion diweddaraf ac i lunio dyfodol y sector.
Bydd Menter Môn, yn mynychu ochr yn ochr â Masnach a Buddsoddi Cymru, sef menter Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru. Fel perchennog Hwb Hydrogen Caergybi, mae Menter Môn yn cydnabod fod y digwyddiad yn gyfle pwysig i feithrin rhwydwaith o gysylltiadau newydd ac i adnabod cyfleodd buddsoddi er mwyn datblygu’r Hwb.
Dywedodd Graham Morley, Rheolwr Prosiect Hwb Hydrogen: “Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig i ni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fynychu gyda’n cyd-weithwyr o Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i gyfarfod arweinwyr y diwydiant, i drafod ein cynnydd, a dangos sut y gallwn ni helpu i ddatgarboneiddio sectorau allweddol.
“Dwi’n edrych ymlaen at rannu stori Ynys Môn gyda chynulleidfa fyd-eang. Bydd Hwb Hydrogen Caergybi yn cael ei bweru gan drydan adnewyddadwy o’i chwaer brosiect, sef Ynni Llanw Morlais, a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgarboneiddio trafnidiaeth, diwydiant, pheiriannau trwm (NRMM) yng Ngogledd Cymru.”
Ychwanegodd: “Er ein bod dal yng nghyfnod cynnar y datblygiad, rydyn ni’n awyddus i gysylltu â busnesau a sefydliadau sy’n barod ac awyddus i symud i systemau carbon-isel – gallai hynny fod mewn logisteg, cludo nwyddau, peiriannau, neu reolwyr fflyd sector cyhoeddus. Ein nod yw cyd-weithio gyda chwmnïau sy’n barod i ddefnyddio hydrogen ac sy’n awyddus i siapio dyfodol ynni glân. Mae mynychu’r gynhadledd hon yn gyfle gwych i ddechrau sgyrsiau ac i ddysgu gan eraill yn y sector.”
Menter Môn sy’n arwain ar ddatblygu Hwb Hydrogen Caergybi mewn partneriaeth â Hynamics, is-gwmni i EDF ac mae’n rhan o genhadaeth ehangach y sefydliad i ysgogi twf economaidd lleol, creu swyddi gwyrdd, a sicrhau budd hirdymor ar gyfer y gymuned trwy ynni glân.
Pierre de Raphelis-Soissan, yw Prif Weithredwr Hynamics UK, dywedodd: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner i Menter Môn wrth gefnogi datblygiad Hwb Hydrogen Caergybi. Wrth gydweithio, rydym yn dod ag arbenigedd hydrogen Hynamics ac EDF a profiad unigryw Menter Môn mewn datblygu cynaliadwy ynghyd. Gyda’n gilydd, gallwn greu system ynni carbon isel sy’n cefnogi’r broses o greu economi sero-net.”
Mae Hwb Hydrogen Caergybi eisoes wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer electroleiddiwr 1MW, gyda chynlluniau i ehangu hyd at 5MW neu 10MW fel mae’r galw’n cynyddu. Mae llawer o’r gwaith eisoes wedi dechrau, ac mae Menter Môn yn y broses o gysylltu â phartneriaid posibl er mwyn adeiladu dyfodol cynaliadwy, carbon-isel ar gyfer Gogledd Cymru.