Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol fydd yn sicrhau gosod tyrbinau ynni llanw fesul cam yn ddiogel ym Mharth Arddangos Morlais.
Trosolwg
Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol sydd yn sicrhau gosod tyrbinau ynni llanw fesul cam yn ddiogel ym Mharth Arddangos Morlais. Gan weithio gyda thîm o arbenigwyr, mae’r prosiect wedi datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol i ddiogelu bywyd gwyllt morol. Mae’r canfyddiadau ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy morol eraill er mwyn galluogi twf y sector ynni llif llanw.
Mae’r canfyddiadau ar gael yma: Marine Data Exchange
Y Prosiect
Mae Prosiect Nodweddu a Ymchwil Morol Menter Môn yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol a gynlluniwyd i sicrhau bod cynllun Morlais a phrosiectau ynni llanw eraill yn y DU yn cael eu gweithredu’n ddiogel.
Mwy am Menter Môn
Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol nid ar gyfer elw, wedi ei lleoli ar Ynys Môn ac sy’n gweithio ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Ei nod yw ychwanegu gwerth at yr ardal leol trwy adeiladu ar adnoddau’r rhanbarth, bod o fudd i’r amgylchedd, cynyddu twf treftadaeth ddiwylliannol ac economaidd tra’n cynnal y Gymraeg yn y gymuned.
Amcanion y Prosiect
Mae’r prosiect wedi datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol ar gyfer defnyddio tyrbinau ynni llanw ar raddfa fasnachol. Mae Menter Môn wedi ymrwymo i amddiffyn yr amgylchedd naturiol, gyda’r Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol yn cyfyngu ac yn monitro unrhyw effaith bosibl ar fywyd morol, yn enwedig mamaliaid ac adar môr, yn ystod gweithrediad tyrbinau ym mharth Morlais. Bydd yr ymchwil a rennir yn gyhoeddus yn cael ei defnyddio fel offeryn i lywio pob cam graddol, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr pwnc.
Partneriaid
Mae Menter Môn yn cyd-weithio gyda rhwydwaith o academyddion a busnesau blaenllaw yn y diwydiant, wedi’u lleoli o amgylch y DU wrth ddatblygu cynllun ar gyfer y diwydiant.
Dyfodol Ynni Llanw
Bydd y gwaith MCRP yn cyfrannu at ddatblygu a phrofi technolegau fel sonar gweithredol, camerâu tanddwr, dyfeisiau atal acwstig a delweddu thermol ynghyd ag arolygu bywyd gwyllt y môr lleol.
Bydd canfyddiadau ac ymchwil o’r prosiect hwn ar gael i brosiectau ynni adnewyddadwy eraill i’w cefnogi i sicrhau’r trwyddedau a’r caniatâd perthnasol. Gall hyn wedyn fod yn sail ar gyfer defnyddio tyrbinau llif llanw yn y dyfodol ar raddfa fasnachol yng Nghymru a thu hwnt.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.morlaisenergy.com/cy/amdanom-ni/prosiect-ymchwil-i-nodweddion-morol

