Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â ni: 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com
Swyddi
Aelod Bwrdd Menter Môn ac Annog
Lleoliad: Dyddiad Cau: 12yp 07/11/2025
Rydym yn chwilio am aelodau bwrdd newydd. Un nod sydd wrth wraidd pob gweithgaredd yma ym Menter Môn, datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau. Rydym wedi cydweithio gyda chymunedau, busnesau, y sector gyhoeddus ac unigolion i greu a gweithredu prosiectau arloesol am drideg o flynyddoedd. Oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o hyn drwy fod yn aelod bwrdd? Diddordeb cyfrannu at ddyfodol cymunedau? Ymgeisiwch i fod yn aelod bwrdd.
Ffurflen gais ar-lein ar gael yma neu fel dogfen Word isod.