Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi neu gyfleoedd canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â ni: 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com

Asesydd Busnesau Newydd

Lleoliad: M-Sparc / Hybrid   Dyddiad Cau: 12/06/26  

Rydym yn hysbysebu am Asesydd Busnesau Newydd

  • Lleoliad gwaith: M-Sparc / Hybrid
  • Graddfa cyflog: £26,475 – £30,888
  • Oriau gwaith: llawn amser
  • Dyddiad cau : 5y.p 12/06/2026
  • Rhagwelir cynnal cyfweliadau ar 18/06/2026

Petai gennych ddiddordeb yn y swydd, yna gellid cysylltu gyda Bethan Fraser-Williams (Cyfarwyddwr Prosiect) am sgwrs anffurfiol ar 01248 725 700 / 07889 629 660 neu bethan@mentermon.com

Ffurflen Gais Swydd Ddisgrifiad

Profiad Gwaith

Lleoliad:   Dyddiad Cau:  

Mae Menter Môn yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn agored i geisiadau ar gyfer cyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion Blwyddyn 10.

Ein gweledigaeth yw datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau ac mae cefnogi a meithrin unigolion yn ganolog i’n gwaith fel mae datblygu sgiliau plant a phobl ifanc yn un o’n prif flaenoriaethau. 

Drwy’r cyfle yma, bydd disgyblion yn cael profiad gwerthfawr o waith o fewn sefydliad deinamig, gan ddysgu mwy am y wahanol feysydd gwaith ym Menter Môn, yn ogystal â datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd fydd yn rhoi blas ar draws sawl maes gwaith, gan gynnwys ein portffolios cymuned, economi ac ynni. Rydym yn annog ymgeiswyr i bori drwy ein gwefan er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gweithgareddau ac i ddewis y maes sydd o’r diddordeb mwyaf iddynt. 

👉 I ddatgan diddordeb, cwblhewch y ffurflen gan nodi pa faes o waith sydd o ddiddordeb i chi:  Linc 

Dyma gyfle gwych i gamu’n hyderus i’r byd gwaith a dechrau datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.  

Rydan ni’n edrych ymlaen at groesawu’r genhedlaeth nesaf o dalent leol! 

Ddogfennau

Canllawiau Sgiliau Iaith
Buddion Staff
Strwythur


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233