CYFLWYNIAD I DDEFNYDDIO PLADUR I DORRI LLYSDYFIANT

Dyddiad: Dydd Mawrth, 27ain Awst 2019

Amser: 10yb – 3yh

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Leol Tir Comin Llanddona ond cwrdd ym maes parcio Neuadd Bentref Llanddona LL58 8TS

DISGRIFIAD O’R DIGWYDDIAD

Dewch i ymuno â’r diwrnod gwaith cadwraethol hwn yn y warchodfa natur leol yn Llanddona a dysgu sut i ddefnyddio pladur. Mae GNL Tir Comin Llanddona yn disgyn o fewn i ffiniau’r ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AHNE) ac mae ehangder agored y rhostir yn cynnig ardal ddeniadol iawn o lystyfiant naturiol. Fodd bynnag, er mwyn cynnal ei werth bioamrywiaethol mae angen rheoli’r tir yn ofalus. Mae’r bladur yn declun traddodiadol sydd yn gweld adfywiad ym Mhrydain ar hyn o bryd. Yn wahanol i’r peiriant torri gwair neu’r strimmer, nid yw’n cynhyrchu unrhyw sŵn, dirgryniad na mwg ac mae’n bleser i’w ddefnyddio. Gall y teclun dorri planhigion gwydn fel mieri, rhedyn, danadl poethion a glasbrennau yn ogystal â gweiriau a dolydd gwyllt.

Yn ystod y dydd byddwch chi’n dysgu:

-Sut i sefydlu’r pladur ar gyfer dimensiynau eich corff

-Dewis y llafn mwyaf addas ar gyfer y gwaith

-Newid ongl y llafn

-Sut i hogi’r llafn

-Sut i dorri’n rhwydd a llyfn!

 

MWY O WYBODAETH

Darperir te / coffi a bisgedi ond dewch â’ch cinio eich hun.

Gwisgwch ddillad awyr agored addas ac esgidiau cadarn.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect Cwlwm Seiriol cliciwch yma

ARCHEBU LLE

Rhaid archebu lle o flaen llaw – dim ond 10 lle sydd ar gael. I archebu lle, cysylltwch â: cwlwmseiriol@mentermon.com neu ffoniwch 01248 725710

CYFARWYDDIADAU

Cyfarfod yn maes parcio y Neuadd Bentref Llanddona wedi’i farcio fel ‘Sch’ ar y map OS isod:

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233