Cafodd Canolfan Arloesi Tech Tyfu yn M-SParc ar Ynys Môn ei hagor gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Cafodd y rhaglen beilot ei chyflwyno gan Menter Môn, mudiad nid-er-elw, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Bu’r rhaglen yn llwyddiant ymysg tyfwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn, a oedd wedi datblygu a darparu microlysiau ffres i fwytai, gwestai a defnyddwyr gan ddefnyddio dulliau hydroponig cynaliadwy sy’n seiliedig ar ddŵr.

Yn ail gam y fenter, bydd 13 o safleoedd tyfu ledled Cymru yn cael cefnogaeth gan y Ganolfan dros y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys system raciau ar gyfer techneg haen fas o faethynnau (nutrient film technique) sydd â phedair lefel, gyda chapasiti cynhyrchu o 732 o bennau planhigion, unedau gorlif a draenio, ystafell dyfu a siambr amgylchedd a reolir.

Diolchodd Rheolwr y Prosiect, Luke Tyler, i’r Gweinidog am fod yn bresennol, ac mae’n credu y bydd Tech Tyfu yn rhan bwysig o’r gwaith o siapio’r economi amaeth-dechnoleg ledled y wlad, gan hyrwyddo twristiaeth bwyd, a chryfhau cadwyni cyflenwi.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at agor y Ganolfan Arloesi newydd. Bydd yn rhan ganolog o’r broses o helpu’r tyfwyr drwy ymchwil a datblygu a hyfforddiant garddwriaeth,” meddai.

“Yn y cyfleuster yma sy’n torri tir newydd, byddwn yn treialu cnydau newydd, dulliau tyfu ac offer, ac yn gweithio gyda phartneriaid academaidd ac ym myd busnes i ystyried cyfleoedd ar gyfer cnydau a thechnoleg.

“Byddwn hefyd yn cynnal llyfrgell adnoddau i annog tyfwyr newydd i gymryd eu camau cyntaf tuag at ffermio fertigol heb gostau afresymol.”

Ychwanegodd Luke: “Roedd yn bleser gallu dangos i’r Gweinidog y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma a’n gweledigaeth ehangach – hoffem ddiolch iddi eto am gefnogi’r prosiect ac am ymweld â ni heddiw.”

Atgyfnerthodd y Gweinidog y geiriau hynny, a dywedodd: “Mae’n wych gweld y gwaith arloesol yma’n digwydd yn Ynys Môn, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Fe allai ffermio fertigol leihau hyd cadwyni cyflenwi, diogelu’r cyflenwad bwyd ymhellach, a lleihau allyriadau carbon.

“Bydd y Ganolfan Arloesi newydd yn sicrhau bod Cymru yn arwain y ffordd ym maes ymchwil garddwriaethol ac amaeth-dechnoleg, ac mae’n bleser gennyf ei lansio’n swyddogol.”

Mae ffermio fertigol yn galluogi tyfwyr i reoli amgylchedd eu cnwd, sy’n golygu bod dŵr a maethynnau yn cael eu defnyddio’n llawer mwy effeithlon. Mae hefyd yn eu galluogi i greu’r amodau angenrheidiol i dyfu cnydau y tu allan i’r tymor, gan leihau’r pwysau ar y gadwyn cyflenwi bwyd yn ogystal â chostau cludo, pecynnu ac oeri.

Mae Swyddog Prosiect y Ganolfan Arloesi, Molly Poulter, yn edrych ymlaen at ystyried rhagor o gyfleoedd ymchwil a datblygu dros y misoedd nesaf, a fydd yn rhoi mwy o gyfle i ffermwyr, busnesau a’r diwydiant bwyd arallgyfeirio.

“Bydd y Ganolfan yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a datblygu a masnacheiddio, ac mae hyn i gyd yn ategu ein gwaith ar y prosiect ehangu,” meddai.

“Helpu’r 13 o dyfwyr fydd y pwyslais cychwynnol, ac yn y tymor hir rydyn ni’n bwriadu helpu busnesau mewn gwahanol feysydd ym myd amaethyddiaeth ac amaeth-dechnoleg gyda’u syniadau am gynnyrch a systemau.

“Byddwn hefyd yn edrych ar y systemau a’r peiriannau sydd yma a’r dechnoleg sy’n cael ei darparu i’r tyfwyr, gan ddefnyddio adborth i ddatblygu hynny ymhellach. Byddwn hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi er mwyn i bobl allu dysgu mwy am arddwriaeth fertigol.

“Byddwn yn parhau i brofi’r rhaglen, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut bydd pethau’n datblygu.”