Mae Menter Môn yn falch o gyhoeddi, maen nhw yw prif noddwyr Sioe Sir Fôn 2022, wedi dwy flynedd heriol i’r Sioe yn sgil y pandemig.

Gyda chymorth Menter Môn, gydag arian o’r rhaglen LEADER mae’r Sioe wedi gallu arbrofi gyda syniadau newydd am y tro cyntaf ar sut i ddatblygu’r Sioe. Drwy’r bartneriaeth gyda Menter Môn, mae’r Sioe wedi datblygu ardal adloniant newydd sbon ar gyfer 2022, Y Cowt. Ble bydd gweithgareddau i’r teulu oll, cerddoriaeth byw a gwledd o gynnyrch lleol,  gyda bandiau yn perfformio nes 8yh ar y nos Fawrth, ar bar yn cau am 8:30yh.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Roedden ni (Menter Môn) yn awyddus iawn i gefnogi Sioe Môn wrth iddynt gynnal y Sioe am y tro cyntaf mewn tair blynedd. Roedd eleni yn gyfle perffaith i allu rhoi cynnig ar bethau newydd ac mae’n bwysig fod y Sioe yn gallu arbrofi gyda gweithgareddau newydd wrth i’r Sioe ddychwelyd wedi’r pandemig, ag yn sgil hynny rydym yn falch o fod wedi gallu cefnogi’r Sioe i allu datblygu’r Cowt.”

Ychwanegodd Jackie Lewis, Uwch Swyddog Prosiect Menter Môn:

“Y syniad tu ôl i’r Cowt yw annog mynychwyr y Sioe i dreulio mwy o amser ar y maes, fel yn yr Eisteddfod. Yn ogystal ar ardal adloniant, mae Menter Môn eto eleni wedi noddi’r Neuadd Fwyd yn y Sioe eleni, gyda’r nod o hyrwyddo bwyd a diod lleol, a chefnogi cynhyrchwyr bwyd Môn.”

Dywedodd John Jones, Llywydd y Gymdeithas Amaethyddol Môn:  “Rydym ni fel Cymdeithas yn hynod falch fod Sioe Môn yn ôl eleni, gyda nifer o atyniadau newydd ar y Maes. Mae ein partneriaeth gyda Menter Môn yn gyffrous, er mwyn gallu cynnig llwyfan i gynhyrchwyr lleol yn y Neuadd Fwyd ynghyd a chynnig gwledd o adloniant i’r teulu cyfan yn Y Cowt. Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnwrf a bwrlwm ar faes y sioe unwaith eto.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig gyda chyfraniad gan Gronfa Elusennol Ynys Môn.