Bydd busnesau manwerthu yn y Rhyl ymhlith y cyntaf yn y wlad i gael cymorth arbenigol i hyrwyddo eu busnesau drwy gyfryngau cymdeithasol, yn dilyn lawnsio cynllun peilot 6 mis Gwobrau Lleol fel rhan o brosiect ‘Blwyddyn y Trefi SMART’ sy’n cael ei wireddu gan Menter Môn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Menter Môn yn gwmni di-elw sy’n cynnig datrysiadau i heriau sy’n wynebu busnesau, cymunedau ac unigolion yng nghefn gwlad Cymru.

Fel rhan o’r cynllun, bydd yr arbenigwyr manwerthu a chyfryngau cymdeithasol Maybe* Tech yn darparu ‘canllaw stryd fawr ddigidol’ er mwyn arddangos y gorau o’r hyn sydd gan y busnesau lleol i’w cynnig.

Bydd y busnesau sydd yn creu cynnwys rhyngweithiol ar eu cyfryngau cymdeithasol yn cymryd y mannau gorau yn y canllaw, bydd hyn yn newid yn ddyddiol gan ddibynnu ar y cynnwys mae’r busnesau yn ei rannu. Mae’r rhai sydd yn cynnig buddion i’w cwsmeriaid hefyd yn derbyn mannau gwell yn y canllaw.

Dim ond cofrestru trwy ddefnyddio app.maybetech.com/signup sydd gofyn i’r busnesau wneud er mwyn cymryd rhan. Os ydyn nhw’n hollol ddi-brofiad, heb unrhyw bresenoldeb ar-lein, neu eu bod nhw’n arbenigwyr, mae’r gefnogaeth ar gael i bawb ar sut i ddechrau ar y cyfryngau cymdeithasol neu ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.

Nododd Abigail Pilling, Rheolwr Ardal Gwella Busnes y Rhyl:

“Rŵan, fwy nag erioed o’r blaen, mae hi’n bwysig cynyddu proffil Rhyl, gan ehangu’r ymgysylltiad â chwsmeriaid. Mae AGB yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Menter Môn am gyllido a hwyluso’r defnydd o beilot Maybe*Tech yn y Rhyl, a’r cyfle i dreialu’r platfform.

Mae AGB Rhyl yn chwilio am bencampwyr Maybe* Tech fyddai’n hoffi cymryd y cyfle i fod yn un o’r cyntaf i dreialu’r platfform – cysylltwch â ni i ymuno.

Amcan prosiect ‘Blwyddyn y Trefi SMART’ ydi galluogi busnesau i gynllunio prosiectau fydd yn arwain at dwf economaidd yn ogystal â’u cynorthwyo i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol.

Caiff y cynllun ei gyllido gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhedeg yn agos gyda’r agenda Trawsnewid Trefi. Fel rhan o’r prosiect, mae Menter Môn yn peilota technoleg mewn trefi er mwyn annog busnesau i gasglu a defnyddio data er mwyn deall eu cwsmeriaid ac arferion yn well. Bydd hyn yn cefnogi eu cynlluniau a gweithgareddau marchnata ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, a’r aelod arweiniol dros yr Economi:

“Rydym wedi gwirioni bod Rhyl wedi ei ddewis fel un o’r trefi i dreialu’r cynllun peilot gwych yma sydd yn gweithio i gefnogi busnesau o fewn y sir. Mae yna gymaint o fanteision i’w cael o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu cynnyrch, er hyn rydym angen yr adnoddau er mwyn ein helpu ni i addasu i’r newidiadau hyn a buddio ohonyn nhw.”

Rydym yn annog pawb i gefnogi eu busnesau lleol trwy ddefnyddio’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol i godi ymwybyddiaeth, ond mae’r prosiect yma yn amlygu buddion ychwanegol technoleg ddigidol y gallwn ni gyd fod yn gefnogol ohonyn nhw. Byddwn yn awgrymu bod pob busnes sy’n gallu, yn cymryd rhan.”

Rhyl ydi’r Dref Arloesol gyntaf fydd yn peilota un math o’r dechnoleg yma, gyda Menter Môn yn gweithio gyda chymuned Rhyl i werthuso llwyddiant y peilot ac i gynnig cefnogaeth ac adnoddau i drefi eraill sydd yn ystyried rhoi tro ar y dechnoleg yma.

“Mae ymchwil diweddar yn dangos bod tua 70% o ddefnyddwyr yn treulio tua 3 awr o’u diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth blethu hyn gyda’r ffaith bod mwy a mwy o bobl yn edrych i gefnogi busnesau’r stryd fawr, mae’n gwneud synnwyr bod y byd technolegol yn cael ei gysylltu gyda’r byd ffisegol er mwyn cynyddu faint o bobl sydd ar y stryd a chynyddu gwerthiant busnesau”, meddai Polly Barnfield OBE, Prif Weithredwr Maybe* Tech.

Ychwanegodd Clare Bailey, Pencampwr Manwerthu, Manwerthwr annibynnol ac arbenigwr y stryd fawr:

“Mewn lleoliadau eraill ble mae’r dechnoleg yma wedi ei osod mae busnesau wedi cofnodi cynnydd yn y nifer o gwsmeriaid yn eu siopa yn ogystal â’u gwerthiannau. Hefyd mae pobl wedi gallu cyrraedd ac ymgysylltu â chwsmeriaid ar lein, pobl efallai na fyddai wedi dod ar draws y busnes o’r blaen.

Rydym wedi gweld un manwerthwr esgidiau annibynnol yn cynyddu eu gwerthiannau ar lein o 0 i £1 miliwn yn ogystal â chynyddu gwerthiannau ffisegol yn y siop o ganlyniad i ddefnyddio offer platfform www.maybetech.com.

Yn amlwg mae gofyn i fusnesau chwarae eu rhan, ond wrth ddarparu’r offer, a’r sgiliau i wneud y mwyaf o’r offer, rydym yn gwybod bod yna fuddion i’r gymuned gyfan.

Gyda’r Gaeaf yma, dyma’r amser perffaith i sicrhau bod busnesau yn gallu wynebu’r storm gan ddechrau gwerthu ar-lein neu wella eu presenoldeb digidol.

O fy mhrofiad i, mae’r busnesau sydd wedi cadw mewn cysylltiad â’u cwsmeriaid trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnodau clo blaenorol yn rai sydd wedi cadw eu cwsmeriaid presennol a fwy na dim wedi cynyddu eu gwerthiannau i fod yn llawer uwch nac yn y cyfnod cyn y pandemig. Byddwn yn awgrymu bod pob busnes yn cofleidio’r cyfrwng digidol fel rhan allweddol o’u cyfathrebu gyda chwsmeriaid a’r strategaethau gwerthu.”