Mae Gŵyl Cefni wedi bod yn cael ei chynnal ers chwarter canrif. Dechreuodd yn y flwyddyn 2000 yn Llangefni fel rhan o weithgareddau ein Menter Iaith o fewn Menter Môn.  

Eleni oedd yr ŵyl fwyaf eto, ac wedi’r holl gostau a’r trefnu ddod i ben ar gyfer 2025  – mae  pwyllgor Gŵyl Cefni, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gydlynu gan Menter Môn, wedi dod i benderfyniad anodd ond angenrheidiol i beidio â chynnal Gŵyl Cefni yn 2026.  

Ers ein gŵyl gyntaf, mae Gŵyl Cefni wedi tyfu y tu hwnt i’n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd ac wedi tyfu yn aruthrol ac yn hynod gyflym dros y blynyddoedd diweddaraf. Er bod y twf yn destun balchder ac yn hwb aruthrol i’r dref yn ystod wythnos yr ŵyl, mae hefyd yn rhoi pwysau a chyfrifoldebau sylweddol uwch ar ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig.   

Ar ôl ystyriaeth ofalus, mewn cyfarfod ar 23 o Fedi, pleidleisiodd y pwyllgor i gymryd blwyddyn i ddatblygu yn 2026.  

Rydym am eich sicrhau nad ydi Gŵyl Cefni yn dod i ben. Yn ystod y flwyddyn nesaf fe fyddwn ni’n: 

  • Chwilio am fwy o aelodau’r pwyllgor a gwirfoddolwyr 
  • Chwilio am ffyrdd ychwanegol i gyllido’r ŵyl Gymraeg a Chymreig hon 
  • Trefnu gweithgareddau codi arian 

Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol 2026 i gydweithio, datblygu ein gweledigaeth  a gweithredu ac fe fyddwn yn cynnal gweithgareddau cymunedol yn ystod 2026.

Dywedodd Elen Hughes Cyfarwyddwr Prosiectau Menter Môn: 

“Hoffem ddiolch  i bawb sydd wedi cefnogi Gŵyl Cefni dros y blynyddoedd gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, noddwyr, busnesau lleol, perfformwyr, stondinwyr, ymwelwyr, ac yn bwysicaf oll, yr holl bobl sydd wedi bod yn dod draw i fwynhau a dathlu diwylliant Cymreig a miwsig Cymraeg.

“Rydym mor falch o lwyddiant yr ŵyl. Dros y blynyddoedd, mae wedi tyfu gan ddenu miloedd o fynychwyr dros ddathliad deuddydd o gerddoriaeth Cymraeg yn nhref Llangefni.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn 2027 gydag egni newydd, gan sicrhau bod Gŵyl Cefni yn parhau i ddathlu diwylliant bywiog ein cymuned am flynyddoedd i ddod.”

Rydym yn ystyried y flwyddyn nesaf fel cyfle i weithio’n agosach gyda busnesau a’r gymuned leol i sicrhau bod ein cymuned yn gallu gwneud y mwyaf o fuddion economaidd yr ŵyl yn 2027 a thu hwnt. 

Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn dechrau cynllunio ar gyfer gŵyl Cefni 2027 ac rydym hefyd yn galw ar unigolion sydd â diddordeb i ymuno â ni o’r newydd i gynllunio at 2027.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Eisteddfod yr Urdd yn 2026 a rydym yn deall bod ein gwirfoddolwyr a chymunedau yn rhoi llawer o egni a’u hamser at hynny.

Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli neu bod yn rhan o’r pwyllgor, neu os oes gennych ddiddordeb fod yn gyllidwr ar gyfer Gwyl Cefni, cysylltwch hefo ni: ymholiadau@mentermon.com 

Am unrhyw ymholiad gan y wasg, cysylltwch drwy anfon e-bost at: cyfathrebu@mentermon.com


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233