Mae Menter Môn yn gweithredu i sefydlu Hwb Hydrogen yng Nghaergybi. Bydd yr hwb yma yn fan cychwyn i sefydlu cadwyn gyflenwi hydrogen gwyrdd ar Ynys Môn, a hyn yn cael ei wneud o dan berchnogaeth leol, i’w sefydlu gan Menter Môn.

Nos Lun y 13eg o Fedi bu Guto Owen, Cyfarwyddwr Hydrogen Menter Môn a Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn yn cynrychioli’r Hwb fel rhan o drafodaeth Wythnos Rhyngwladol Morgludiant Llundain a’r cyfleoedd i hydrogen yn y sector. Cynhaliwyd y noson yma yn Whitehall, Llundain gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS. Prif bwrpas yr ymweliad yma oedd trafod potensial yr Hwb Hydrogen a’i rôl bosib wrth ddatgarboneiddio’r sector forwrol yn ogystal â chreu cyflogaeth leol. Bydd y cynllun hefyd yn ategu ac yn ychwanegu gwerth at Raglen Ynys Ynni Ynys Môn.

Caiff hydrogen ei adnabod fel bod yn hanfodol ar gyfer datgarboneiddio a sicrhau aer glân ar draws yr economi fyd-eang. Mae Menter Môn yn canolbwyntio ar hydrogen gwyrdd, sy’n cael ei gynhyrchu gan ddŵr ac ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn sicrhau cyflenwad tanwydd allyriadau sero ac felly’n osgoi unrhyw allyriadau carbon o fewn y gadwyn gyflenwi.

Nododd Guto: “Mae Menter Môn yn gweithredu ar frys mewn meysydd sydd yn allweddol bwysig ar gyfer yr economi werdd, a’r rhain sy’n cyfrannu at  wella ansawdd bywyd ar ein cyfer ni nawr a’r cenhedlaethau sydd i ddod.”

Gyda chynhadledd Cop26 ar y gweill ac adroddiad IPCC ar Newid Hinsawdd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar mae’n galonogol iawn gweld bod Menter Môn yn ymateb i bynciau llosg o fewn y gymdeithas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect o’r Gronfa Drafnidiaeth Leol i gefnogi’r gwaith datblygu. Mae’r cynllun hefyd wedi ei gefnogi wrth i gyllid o £4.8m gael ei glustnodi o fewn cyllideb Mawrth 2021 y Canghellor, Llywodraeth Prydain ar gyfer yr Hwb. Gyda chefnogaeth fel hyn ar gael mae’n dangos pwysigrwydd gwaith Menter Môn yn y maes. Yn ogystal â hyn, mae’r cwmni’n rhyngweithio gyda rhanddeiliad ar draws y rhanbarth er mwyn denu sylw rhyngwladol gan y sector hydrogen twf uchel.

Nod yr hwb cychwynnol ydi bod yn blatfform ar gyfer tyfiant wrth i’r defnydd o hydrogen gynyddu. Mae’r cwmni yn gweld potensial mawr am alw ar hydrogen ar gyfer trafnidiaeth drwm megis HGVs yn ogystal â symud at gynulleidfaoedd newydd fel defnyddio hydrogen ar gyfer gwresogi a diwydiant.