Môn a Menai

Galluogi lles cymunedol trwy wella mannau gwyrdd cymunedol ym Môn ac mewn rhan o Arfon yng Ngwynedd, gan gefnogi pobl ifanc i ennill profiad gwaith a datblygu gwirfoddoli.

Mae Môn a Menai yn brosiect sydd yn bwriadu galluogi llesiant cymunedol trwy wella mannau gwyrdd cymunedol. Caiff y prosiect ei ariannu trwy Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru Llywodraeth Cymru (ENRaW).

Bwriad prosiect Môn a Menai yw galluogi cymunedau yn Ynys Môn a rhan o Arfon yng Ngwynedd i drawsnewid ardaloedd preswyl i fod yn lefydd mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld a hwy. Trwy gefnogi gweithredu lleol, nod y cynllun yw gwella mannau gwyrdd cymunedol a bioamrywiaeth, cefnogi gweithgareddau gwirfoddoli a gwella mynediad i gefn gwlad.

Mi fydd y prosiect yn cefnogi chwech o brosiectau yn y gymuned, yn cefnogi gwaith i wella’r amgylchedd, gweithgareddau gwirfoddoli ac hefyd yn cynnig nifer o leoliadau gwaith i bobl ifanc 16-24 oed sydd yn ddi-waith ac bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn ennill profiad yn y sector amgylcheddol.

Bwriad y prosiect yn y pen draw yw galluogi llesiant yn y gymuned drwy gefnogi cymunedau i wella cyflwr eu hamgylchedd lleol, tra’n datblygu gwerthfawrogiad o’r ardal a chryfhau’r cysylltiad gyda’r amgylchedd naturiol.

Mae cynllun Menter Môn, Mon A Menai wedi bod yn cefnogi nifer o brosiectau mannau gwyrdd cymunedol ar Ynys Môn ac yng Nghogledd Arfon. Dyma fap o’r holl leoliadau arbennig hyn. 

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb, anfonwch ebost at monamenai@mentermon.com.

 

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233