Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol

Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol fydd yn sicrhau gosod tyrbinau ynni llanw fesul cam yn ddiogel ym Mharth Arddangos Morlais.

Trosolwg

Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol fydd yn sicrhau gosod tyrbinau ynni llanw fesul cam yn ddiogel ym Mharth Arddangos Morlais. Gan weithio gyda thîm o arbenigwyr, bydd y prosiect yn datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol i ddiogelu bywyd gwyllt morol. Bydd y canfyddiadau ar gael wedyn ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy morol yn y dyfodol er mwyn galluogi twf y sector ynni llif llanw.

 

Y Prosiect

Mae Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol Menter Môn yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol wedi ei gynllunio i sicrhau bod prosiect ynni llif llanw Morlais  yn cael ei weithredu yn ddiogel. Mae Parth Arddangos Morlais yn ardal 35km2 oddi ar Ynys Cybi, Ynys Môn sy’n cael ei ddatblygu gan Menter Môn.

 

Mwy am Menter Môn

Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol nid ar gyfer elw, wedi ei lleoli ar Ynys Môn ac sy’n gweithio ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Ei nod yw ychwanegu gwerth at yr ardal leol trwy adeiladu ar adnoddau’r rhanbarth, bod o fudd i’r amgylchedd, cynyddu twf treftadaeth ddiwylliannol ac economaidd tra’n cynnal y Gymraeg yn y gymuned.

 

Amcanion y Prosiect

Bydd y prosiect yn datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol ar gyfer defnyddio tyrbinau ynni llif llanw ar raddfa fasnachol. Mae Menter Môn wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd naturiol, gyda’r Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol yn cyfyngu ar ac yn monitro unrhyw effaith posib ar fywyd morol, yn enwedig mamaliaid ac adar y môr, yn ystod y cyfnod o roi Morlais ar waith. Bydd yr ymchwil yn cael ei ddefnyddio fel arf i lywio pob cam graddol, mewn ymgynghoriad gydag arbenigwyr pwnc.

 

Partneriaid

Mae Menter Môn yn cyd-weithio gyda rhwydwaith o academyddion  a busnesau blaenllaw yn y diwydiant, wedi’u lleoli o amgylch y DU, gan gynnwys Prifysgolion St Andrews, Bangor ac Abertawe, yr RSPB, Ocean Science Consulting, HR Wallingford, Subacoustech, MarineSpace a Juno Energy wrth ddatblygu cynllun ar gyfer y diwydiant.

 

Dyfodol Ynni Llanw

Bydd y gwaith y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn cyfrannu at ddatblygu a phrofi technolegau megis SONAR gweithredol, camerâu tanddwr, dyfeisiau atal acwstig, delweddu thermal ynghyd ag arolygu’r bywyd gwyllt morol lleol.

Bydd canfyddiadau ac ymchwil o’r prosiect hwn ar gael i brosiectau ynni adnewyddadwy eraill i’w cefnogi i sicrhau caniatâd a’r trwyddedau perthnasol. Gall hyn wedyn fod yn sail ar gyfer defnyddio tyrbinau llif llanw ar raddfa fasnachol i’r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Am ragor o wybodaeth ar y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, cysylltwch â’r tîm ar mcrp@mentermon.com

 

 

Gwybodaeth

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233