Economi
Oes angen cefnogaeth busnes arnoch? Os oes gennych syniad busnes, eisiau tyfu eich busnes, cysylltwch gyda ni i weld sut allwn eich cefnogi. Rydym yn cynnig arweiniad, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddarpar berchnogion busnes.
Trosolwg
Mae arloesedd yn ganolog i’r holl waith rydym ni’n ei wneud ym Menter Môn. Rydym yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i bobl sy’n cychwyn ar eu taith fusnes ac sydd eisiau tyfu eu busnes. Rydym yn gweithredu rhan o gytundeb Busnes Cymru ac mae gennym ein Hwb Menter ein hunain i gefnogi entrepreneuriaeth a darparu’r sgiliau cywir er mwyn i fusnesau gyrraedd eu nod. Rydym yn weithgar mewn meysydd twf o fewn yr economi megis technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, bwyd ac amaeth – ac yn ymgysylltu â rhwydweithiau rhanbarthol i ddatblygu a chryfhau ein cymunedau a sicrhau llwyddiant. Cefnogi busnesau – Mae Menter Môn wedi cefnogi busnesau ers dros 25 o flynyddoedd ac wedi meithrin perthynas agos gyda mentrau hen a newydd dros y cyfnod hwnnw. Rydym hefyd wedi medru manteisio ar weithgaredd mewn amryw feysydd er mwyn ychwanegu gwerth at gynlluniau cefnogaeth busnes e.e.. bwyd, amaeth, ynni adnewyddadwy, twristiaeth a’r iaith Gymraeg. Ar lefel rhanbarthol rydym yn darparu cefnogaeth trwy’r Hwb Menter, sydd â phwyslais ar gefnogi busnesau newydd trwy gyngor arbenigol a grantiau. Yn genedlaethol rydym yn un o gytundebwyr Busnes Cymru, sef prif gynllun cefnogaeth busnes Llywodraeth Cymru. Technoleg ddigidol – Mae Menter Môn wedi arwain y ffordd drwy beilota ystod o dechnoleg ddigidol er mwyn helpu busnesau a chymunedau. Gall y dechnoleg yma ddarparu data defnyddiol, lleihau costau a gwella gwasanaethau. Cychwynnodd gwaith Trefi SMART Cymru yn Aberdaron er mwyn gwella cysylltedd a bellach mae’n gynllun trwy Gymru sy’n helpu trefi gwneud penderfyniadau a chryfhau'r stryd fawr. Rydym hefyd wedi peilota technoleg ‘rhyngrwyd y pethau’ o fewn amaeth, gofal cymdeithasol a thwristiaeth, ac wedi cydweithio gyda chymunedau er mwyn gosod gwella cysylltedd band eang. Bwyd ac amaeth – Mae’r sector bwyd ac amaeth yn bwysig i economi’r rhanbarth ac mae Menter Môn wedi ychwanegu gwerth, datblygu cadwyni cyflenwi a chefnogi arloesedd. Mae’n bwysig fod gwerth yn cadw ei gadw o fewn yr economi, a thrwy gynlluniau fel Larder Cymru a'r Partneriaethau Bwyd, rydym yn cydweithio gyda chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau mae cynnyrch Cymreig sydd ar fwydlenni ysgolion ac ysbytai. Gyda bygythiadau newid hinsawdd a diogelwch bwyd, mae hefyd yn bwysig medru addasu.

Gwybodaeth
Meysydd Gwaith
(English)
Supporting businesses – Menter Môn has supported businesses for 20 years and has fostered a close relationship with old and new enterprises over that time. We have also been able to take advantage of activities in various areas in order to add value to business support schemes e.g. food, agriculture, renewable energy, tourism and the Welsh language. At a regional level we provide support through the Hwb Menter, which has an emphasis on supporting new businesses through specialist advice and grants. Nationally we are one of the contractors for Business Wales, which is the Welsh Government’s main business support scheme.
Digital technology – Menter Môn has led the way by piloting a range of digital technology to help businesses and communities. This technology can provide useful data, reduce costs and improve services. SMART Towns Cymru started in Aberdaron to improve connectivity and is now a Wales-wide scheme that helps towns make decisions and strengthen the high street. We have also piloted ‘internet of things’ technology within agriculture, social care and tourism, and have worked with communities to improve broadband connectivity.
Food and agriculture – The food and agriculture sector is important to the region’s economy and Menter Môn has added value, developed supply chains and supported innovation. It’s important that value is preserved within the economy, and through schemes such as Larder Cymru and Food Partnerships, we collaborate with public bodies to ensure that there are Welsh products on school and hospital menus. With the threats of climate change and food security, it is also important to be able to adapt.