Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol parthed unrhyw un o’r swyddi canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com
Swyddi
Rheolwr Cynlluniau Cymunedol (Môn)
Lleoliad: Hybrid (Lleoliad y brif swyddfa yw Llangefni) Dyddiad Cau: 9 y.b 06/10/2025
Swydd Newydd: Rheolwr Cynlluniau Cymunedol (Môn)
Oes gen ti’r sgiliau i ddatblygu’r Gymraeg a’r ymdeimlad o falchder ar draws yr Ynys? Mae Menter Môn yn chwilio am arweinydd i lywio prosiectau ieithyddol a chymunedol ar Ynys Môn.
Hyd Cytundeb: Swydd dros dro tan Fawrth 2027
Cyflog: £38,843 – £48,175 + pensiwn buddion diffiniedig
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Hybrid (Lleoliad y brif swyddfa yw Llangefni)
Dyddiad cau: 9 y.b 06/10/2025
Dyddiad Cyfweld: 15/10/2025
Am ragor o wybodaeth gellid cysylltu gyda Elen Hughes, Cyfarwyddwr Prosiect, elen@mentermon.com