Dadgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau.
Dros gyfnod o 25 mlynedd a mwy, mae Menter Môn wedi cydweithio â busnesau, cymunedau, y sector gyhoeddus ac unigolion er mwyn cyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol ledled Gogledd a Gorllwein Cymru. Mwy…
Prif Feysydd Ein Gweithgarwch
Wrth ystyried persbectif tymor hir yn y gymuned a darparu atebion twf cynaliadwy mae’r Fenter yn creu ac yn cynyddu cyfleoedd ar draws y prif sectorau canlynol:
Ynni
Dewch i wybod mwy am sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy Menter Môn yn cyd-fynd â’n hymdrechion cadwraeth amgylcheddol, gan gyfrannu at warchod y blaned a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau.
Cymuned
Mae gweld cymunedau yn llwyddo wrth wraidd holl gynlluniau Menter Môn. Rydym yn helpu i greu cymunedau llewyrchus gyda’r Gymraeg yn ffynnu. Ein nod yw i gael amgylchedd iach, swyddi o safon uchel i bobl ifanc talentog, a chymunedau sy’n ymateb i heriau maen nhw’n eu hwynebu. Rydym yn cefnogi mentrau ar gyfer siapio dyfodol ein cymunedau.