Ynni

Dewch i wybod mwy am sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy Menter Môn yn cyd-fynd â’n hymdrechion cadwraeth amgylcheddol, gan gyfrannu at warchod y blaned a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau.

Ynni

Trosolwg

Mae ein prosiectau ynni adnewyddadwy yn ategu’r gwaith cadwraeth ac amgylcheddol y mae Menter Môn yn ei wneud i warchod y blaned a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau. Mae Menter Môn wedi adnabod potensial mawr ar gyfer ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn ac yn gyfrifol am brosiectau ynni gwyrdd arloesol gan gynnwys Hwb Hydrogen Caergybi, MCRP a Morlais.

Morlais  Agoriad Swyddogol Morlais / Official Opening at Morlais  MCRP

Gwybodaeth

Meysydd Gwaith

Hwb Hydrogen Caergybi: Gall defnyddio ynni adnewyddadwy cynradd i gynhyrchu hydrogen trwy electrolysis, gynnig opsiwn amgen i gysylltu efo’r grid trydan a all fod yn gyfyngedig. Gall yr “hydrogen gwyrdd” yma ryddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy. Yn gynyddol mae mwy yn adnabod rôl unigryw hydrogen yn y trosglwyddiad tuag at ddatgarboneiddio ar draws pob sector; ac mewn lleihau llygredd aer. Gall hyn arwain at greu miloedd o swyddi ar draws Cymru a nifer o’r rheini ar Ynys Môn. Darllen ymlaen

Morlais: Prosiect ynni llif llanw Menter Môn ydy Morlais. Mae’n rheoli ardal 35Km² o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel. Ewch i wefan Morlais am fwy o wybodaeth. Gwefan Morlais

VInnovate BLATEM 2.0

Gyda chefnogaeth o £1m gan Lywodraeth Cymru drwy raglen VInnovate, bwriad y prosiect yw dylunio llafnau tyrbin mwy effeithlon a gwydn, yn barod i’w gosod yn y môr oddi ar arfordir Môn. Yn ystod y prosiect, bydd AMRC Cymru, ORE Catapult, a Menter Môn Morlais Cyf yn cydweithio gyda dau gwmni o Galicia, sef Magallanes Renovables a D3 Applied Technologies. Darllen ymlaen

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233