Blog gan Elen Hughes, ein Cyfarwyddwr Portffolio Cymuned ym Menter Môn.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn fraint cael gweld cymunedau ar draws Ynys Môn yn dod ynghyd a chreu newid cadarnhaol drwy Balchder Bro. Fe welson ni bobl a grwpiau yn datblygu syniadau newydd, yn cryfhau cysylltiadau ac yn creu cyfleoedd sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn eu hardaloedd lleol.
O ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, i gynnal digwyddiadau cymunedol a dathliadau lleol, roedd Balchder Bro yn ymwneud â llawer mwy na darparu cefnogaeth ariannol. Roedd yn ymwneud â rhoi’r gefnogaeth a’r hyder oedd eu hangen ar gymunedau i wireddu syniadau oedd eisoes yn bodoli ac i greu rhywbeth gwerthfawr i’w hardaloedd eu hunain.
Y ffigyrau
Mae gwerthusiad annibynnol y prosiect yn dangos bod dros 9,300 o bobl wedi elwa o weithgareddau Balchder Bro, gyda mwy na 400 o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled yr ynys.
Cryfhau a chefnogi’r Gymraeg
Un o’r pethau mwyaf calonogol i mi oedd gweld sut y defnyddiwyd y prosiect i gryfhau’r Gymraeg mewn ffordd gwbl naturiol. Drwy ddigwyddiadau cymunedol, fel Gorymdeithiau Dydd Gwyl Dewi, Gwyl Gogo Goch, gweithgareddau teuluol, sesiynau sgwrsio a phrofiadau creadigol, cafodd pobl gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd croesawgar, ‘normal’ a chynhwysol.
Roedd gweld pobl ifanc yn tyfu mewn hyder hefyd yn uchafbwynt mawr. Trwy weithgareddau creadigol, cerddoriaeth, theatr a’r celfyddydau, fel cyfrannu at berfformiadau Y Cowt yn Sioe Môn, cefnogi Gwyl Y Fenai a llawer mwy, gwelsom sgiliau newydd yn datblygu a phobl ifanc yn dod o hyd i’w llais a’u lle yn eu cymunedau. Mae’n anodd mesur llwyddiant fel hyn yn erbyn ffigyrau a thargedau. Mae’r llwyddiannau yn llawer mwy personol na hynny, ac mae’r math hwn o effaith yn para ymhell y tu hwnt i gyfnod unrhyw brosiect.
Tafarn yr Iorwerth
Un enghraifft arbennig oedd gwaith Tafarn yr Iorwerth ym Mryngwran. Fel tafarn gymunedol sydd wedi dod yn ganolbwynt bywiog i’r ardal, fe gafodd gefnogaeth ariannol gan Balchder Bro ei ddefnyddio i ddathlu deng mlynedd o berchnogaeth gymunedol. Trefnwyd dwy noson o gerddoriaeth Gymraeg gyda bandiau fel Bwncath a Celt, gan ddod â dros 400 o bobl ynghyd i ddathlu nid yn unig llwyddiant y dafarn, ond hefyd gryfder y Gymraeg a’r gymuned leol.
Fel y dywedodd Nev Evans o Tafarn yr Iorwerth, “heb gefnogaeth Balchder Bro, ni fysa yr un modd i ni allu cynnal digwyddiad mor fawr a llwyddiannus”. Mae’r geiriau hynny’n crynhoi’n berffaith rôl y prosiect.
Cymunedau
Mae gweld cymunedau’n llwyddo wrth wraidd popeth rydym yn ceisio ei wneud ym Menter Môn. Dyna ydi hafnod fy swydd i yma ym Menter Mon. Rydym yn credu mewn helpu cymunedau i fod yn llewyrchus, yn wydn ac yn llawn hyder, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth yn eu hardal eu hunain.
Mae gwerthusiad y prosiect yn dangos bod Balchder Bro wedi gwneud cyfraniad ystyrlon at gryfhau cymunedau, cefnogi’r Gymraeg, gwella lles a meithrin balchder mewn lle ar draws Ynys Môn.
Y dyfodol
Rydym yn croesawu unrhyw drafodaethau gyda phartneriaid a darpar gyllidwyr a allai helpu i wireddu pennod nesaf Balchder Bro.
Yr hyn sydd wedi dod yn gwbl amlwg drwy’r gwerthusiad yw bod buddsoddi mewn pobl, cymunedau, diwylliant a’r Gymraeg yn gweithio. Mae’r manteision cymdeithasol, diwylliannol sy’n deillio o’r gwaith hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gyfnod y cyllid ei hun.
Diolch
I bawb a fu’n rhan o Balchder Bro, boed fel gwirfoddolwr, partner, cyfranogwr neu gefnogwr, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi. Da chi’n gwneud ein rôl ni yn llawer haws, ac yn llawer mwy difyr.”
