Mae Morlais yn nodi carreg filltir allweddol ac yn symud gam yn nes at gynhyrchu trydan glân oddi ar arfordir Môn yn dilyn cytundeb newydd gwerth £2 filiwn ar gyfer y datblygwr ynni llanw HydroWing Ltd.

Daw y buddsoddiad drwy Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru, dan arweiniad Uchelgais Gogledd Cymru i helpu i ddatblygu prosiectau ynni gwyrdd ar draws y rhanbarth. Bydd yr arian yn cyfrannu at adeiladu a rhoi tyrbinau llanw HydroWing ar waith ym mharth Menter Môn Morlais, gyda disgwyl i’r dyfeisiau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2027.

Mae prosiect HydroWing yn gam pwysig ymlaen yn natblygiad Morlais, sy’n darparu’r seilwaith sydd ei angen i gysylltu dyfeisiau ynni llanw â’r grid trydan. Yn ogystal â chyfrannu at gynhyrchu trydan glân, bydd y prosiect yn creu swyddi da ac yn dod â chyfleoedd i fusnesau lleol a’r gadwyn gyflenwi yn ehangach.

Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf: “Mae’r buddsoddiad hwn yn gyfraniad pwysig ac yn hwb sylweddol i HydroWing ac i Morlais – mae’n dangos pwysigrwydd partneriaeth wrth ddatblygu’r sector ynni llanw. Mae’r seilwaith eisoes yn ei le yma i gefnogi dyfeisiau ynni llanw, a bydd prosiectau fel hyn yn helpu i droi’r potensial hwnnw’n drydan glân, swyddi o safon a chyfleoedd i gymunedau a busnesau ar hyd a lled y gogledd.”

Ychwanegodd Richard Parkinson, Prif Weithredwr HydroWing, adran ynni llanw Inyanga Marine Energy Group: “Mae sicrhau’r cyllid hwn gan Uchelgais Gogledd Cymru yn garreg filltir bwysig, sy’n ein galluogi i osod ein dyfais ynni llanw cyntaf ym mharth Morlais yn 2027. Mae’r buddsoddiad yn gosod y sylfaen ar gyfer ein cynlluniau ar gyfer ein datblygiad masnachol 30MW a’n huchelgais i roi Cymru ar y map o ran technoleg ynni llanw, gan greu swyddi, cryfhau’r gadwyn gyflenwi ac agor cyfleoedd allforio rhyngwladol sylweddol.”

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol Uchelgais Gogledd Cymru dros Ynni Carbon Isel ac Arweinydd Cyngor Ynys Môn: “Mae ein Cronfa Ynni Glân yn mynd o nerth i nerth ac rwy’n falch iawn ei bod wedi bod yn bosibl cefnogi HydroWing i ddatblygu Morlais ymhellach, gan nodi cam pwysig ymlaen i economi carbon isel Gogledd Cymru. Mae Uchelgais Gogledd Cymru eisoes wedi cefnogi Morlais drwy brosiect Cydnerth i cyswllt grid lleol. Felly, mae’n wych gallu adeiladu ar hynny.”

Mae Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a’i gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233