Mae gwaith y tîm amgylchedd gyda’r lygoden ddŵr yn benodol wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth warchod ein rhywogaethau brodorol eleni. Mae’r ymdrechion hyn yn adlewyrchu gwaith partneriaeth, ymroddiad gwirfoddolwyr, a chydweithio cymunedol.

Mae prif gyflawniadau eleni yn cynnwys:

  • 75 o finc wedi’u difa: Mae’r cam hwn yn hanfodol i leihau’r bygythiad i rywogaethau brodorol fel y llygod dŵr.
  • 38 o arolygon llygod dŵr: Mae’r arolygon hyn yn darparu data hanfodol ar statws a lles y boblogaeth.
  • 136 o Raftiau Gweithredol: Mae’r rhain yn arfau monitro effeithiol sy’n helpu i ganfod presenoldeb minc yn gyflym.
  • 18 digwyddiad ymgysylltu wedi’u trefnu neu eu mynychu: Mae’r digwyddiadau hyn yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn codi ymwybyddiaeth.
  • 900 awr o wirfoddolwyr: Mae’r cyfraniad anhygoel hwn yn dangos ymroddiad pobl leol i gadwraeth.

Mae’r ymdrechion hyn yn rhan o strategaeth ehangach i adfer cynefinoedd a sicrhau dyfodol rhywogaethau brodorol fel y llygoden ddŵr, sydd wedi bod yn dirywio’n sylweddol dros y degawdau diwethaf.

Beth nesaf?

Bydd y Fforwm yn parhau i ehangu ei rwydwaith, cynnal arolygon pellach, a chynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan. Mae pob awr sy’n cael ei roi yn cyfrannu’n uniongyrchol at warchod bioamrywiaeth Gogledd Cymru.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233