Mae Menter Môn, mewn partneriaeth â sawl sefydliad allweddol, yn falch o gyhoeddi buddsoddiad newydd ym mhrosiect Glasffordd Ynys Môn, menter arloesol sy’n cyfuno hybu a gwarchod bioamrywiaeth, adfer natur a chysylltu cymunedau ar draws yr ynys.
Mae’r prosiect bellach ar y gweill ar ôl derbyn £224,000 drwy gronfa  Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ariennir trwy Llywodraeth Cymru.
Mae prosiect Glasffordd Môn yn rhan o weledigaeth ehangach gan mai’r nod hirdymor yw datblygu coridor gwyrdd ar draws yr ynys, gan wella mynediad i natur a gwella’r cysylltiadau rhwng cymunedau yn ogystal â hybu llesiant wrth ofalu am a hybu bioamrywiaeth.
Dywedodd Wyn Morgan, Cadeirydd prosiect Glasffordd:
“Rydym yn falch iawn o weld prosiect Glasffordd yn symud ymlaen gyda’r gefnogaeth bwysig hon. Dyma brosiect uchelgeisiol sy’n mynd y tu hwnt i fioamrywiaeth. Mae’n ymwneud â chreu coridor gwyrdd a fydd yn cysylltu pobl, cymunedau a natur ar draws yr ynys.
“Trwy weithio mewn partneriaeth gref, byddwn yn gwella cynefinoedd, yn cynyddu mynediad at natur ac yn creu cyfleoedd i bobl leol gymryd rhan weithredol mewn adfer natur. Mae hwn yn fuddsoddiad go iawn yn nyfodol cynaliadwy Ynys Môn a lles ein cymunedau.”
Trwy’r buddsoddiad hwn, bydd y prosiect yn darparu ystod eang o ymyriadau sy’n seiliedig ar natur a chymunedol, gan gynnwys plannu coed, gwrychoedd a blodau gwyllt i wella cynefinoedd. Bydd y prosiect yn gweithio ar greu dolydd blodau gwyllt a safleoedd i bryfed peillio, gan osod blychau nythu ar gyfer adar, ystlumod a gwiwerod. Byddant hefyd yn creu perllannau cymunedol a mannau hamdden, gan wella mynediad i lwybrau troed a mannau cyhoeddus a bydd y cymunedau yn gallu cymryd rhan trwy wirfoddoli a
gweithgareddau addysg gymunedol. Byddant hefyd yn gweithio ar reoli rhywogaethau goresgynnol.
Bydd y gwaith hwn yn helpu i adfer a gwella cynefinoedd naturiol, gan greu ecosystemau mwy gwydn a chynaliadwy ar hyd y coridor.
Budd i gymunedau lleol
Mae’r prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar gymunedau fel Llangefni a’r ardaloedd cyfagos, lle mae mynediad at fannau gwyrdd o safon yn gyfyngedig. Mae nodau’r prosiect yn cynnwys gwella iechyd a lles trwy annog teithio llesol, cynnig cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau natur, creu mannau diogel, hygyrch a deniadol i’r cyhoedd, a meithrin ymdeimlad o falchder lleol a pherchnogaeth gymunedol.
 Gweithio mewn partneriaeth
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Menter Môn, gyda chefnogaeth partneriaid strategol gan gynnwys:
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
  • Sefydliad Gwylio Môr
  • Lôn Las Môn
Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau bod y prosiect yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac yn cyd-fynd ag anghenion lleol, gan gynnwys gwaith cynllunio blaenorol ac asesiadau bioamrywiaeth. Mae’r prosiect hefyd yn adeiladu ar flynyddoedd o ymgynghori cymunedol, sydd wedi dangos cefnogaeth gref i ddatblygu seilwaith gwyrdd ar yr ynys.
Gwybodaeth bellach
Arweinir y prosiect gan Menter Môn, gan weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau allweddol gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, North Wales Wildlife Trust, Sea Watch Foundation a Lôn Las Môn. Mae pob partner yn cyfrannu arbenigedd penodol – o reoli a gwarchod cynefinoedd naturiol, i ymgysylltu â chymunedau lleol a datblygu seilwaith mynediad – gan sicrhau bod y prosiect yn gydlynol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn creu effaith barhaol ar draws yr ardal.
Cefnogir y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a bydd y cyfraniad hwn yn cael ei gydnabod ar draws yr holl weithgareddau cyfathrebu a chyhoeddusrwydd.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233