Rydyn ni ym Menter Môn yn galw ar drigolion yr ynys i rannu traddodiadau lleol sy’n haeddu cael eu cydnabod ar restr treftadaeth fyw. Dyma ran o ymrwymiad i Gynllun 2003 UNESCO ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Fyw.

Mae treftadaeth fyw yn cyfeirio at yr arferion, sgiliau, crefftau, dathliadau a’r defodau sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid pethau mewn amgueddfa yn unig yw’r rhain, ond arferion sy’n dal yn fyw ac yn parhau i ddatblygu o fewn ein cymunedau.

Cefndir

Yn 2024, ymunodd y Deyrnas Unedig â gwledydd eraill i gefnogi’r Confensiwn hwn, ac rydym yn falch o fod yn rhan o lunio rhestrau swyddogol o dreftadaeth fyw ar draws y wlad.

Pa draddodiadau Môn hoffech chi i ni eu cynnwys?

Mae gan Ynys Môn gyfoeth o draddodiadau unigryw ac ysbrydoledig,ac rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Dyma rai engreifftiau:

  • Clapio Wyau – traddodiad chwareus ac unigryw i’n hysgolion a’n teuluoedd.
  • Ffair Y Borth – un o’n ffairiau mwyaf adnabyddus ac un sy’n dal atgofion a pherthnasedd arbennig i drigolion lleol.
  • Teisen Berffro – rhan o’n treftadaeth goginio sy’n adlewyrchu blasau traddodiadol yr ynys.
  • Dathliadau Santes Dwynwen – dathliad sy’n cydnabod Santes Dwynwen, patron cariadon Cymru, â chysylltiad dwfn â’n tirwedd ac ein hanes.

Mae rhai hefyd yn ymwneud gyda ein cynlluniau a’n gweithgareddau ni dros y blynyddoedd gan gynnwys gweld gwiwerod coch, llwybrau yr arfordir, Castell Aberlleiniog, Gwyl Cefni a mwy!

Rydym eisiau clywed gennych chi!

Chi, drigolion Ynys Môn yw’r pobl gorau i benderfynu pa draddodiadau sy’n wirioneddol bwysig, yn fyw ac yn werth eu trosglwyddo ymlaen.

Gallai hyn gynnwys hen arferion môr, crefftau lleol, sgiliau amaethyddol, gemau traddodiadol, perfformiadau, neu hyd yn oed defodau sy’n cael eu cadw’n fyw mewn cymunedau bach ledled yr ynys.

Os oes gennych chi syniad, enghraifft, neu draddodiad hoffech chi i ni ei enwebu ar y rhestr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

📧 Cysylltwch â’n Rheolwr Cynlluniau Cymunedol, Huw Jones:
huw@mentermon.com

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect cenedlaethol yma:

🔗 https://livingheritage.unesco.org.uk/cy


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233