Ein Cyfarwyddwr Prosiectau, Bethan Fraser-Williams, sy’n trafod yr hyn sydd gan Menter Môn i’w gynnig o ran cefnogi bob math o fusnesau a chyfrannu at economi lewyrchus ym Môn, Gwynedd a thu hwnt.
“Dwi wedi bod yn rhan o dîm Menter Môn ers deuddeg o flynyddoedd. Mae amser wedi hedfan ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r gefnogaeth i fusnesau wedi tyfu ac esblygu dros amser. Mae cannoedd o fusnesau lleol wedi elwa o’n cymorth drwy brosiectau amrywiol, ac rydyn ni’n benderfynol fod hynny’n parhau.
Dyma un rheswm am y blog yma, i rannu ac arddangos yr holl gyfleoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael i chi, boed gennych chi syniad newydd neu fusnes sy’n bodoli ers blynyddoedd.
Cefndir
Rydyn ni’n angerddol am gefnogi pobl sy’n mentro ac yma i roi cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i chi drwy brosiectau amrywiol. Y neges hoffwn gyfleu ydi, cysylltwch hefo ni a pheidiwch â phoeni am ba brosiect sy’n addas i chi. Cysylltu hefo Menter Môn ydi’r cam cyntaf. Wnawn ni eich cyfeirio a’ch arwain wedyn.
Rydym wedi bod wrth galon datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweithio gyda busnesau o bob math gan gynnwys mentrau bach lleol i gwmnïau mawr sy’n tyfu’n gyflym. Ein nod? Creu cyfleoedd, cryfhau’r gadwyn gylfenwi, a helpu busnesau i lwyddo.
Dyma drafod y gwahanol ffyrdd allwn eich cefnogi.
Cenogaeth ar ddechrau’r daith
Rydym, drwy ein prosiect, Hwb Menter, sydd wedi ei leoli yn M-SParc Gaerwen a Hwb Arloesi Porthmadog, yn rhoi’r wybodaeth, arweiniad, ysbrydoliaeth a’r gofod i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniad yn fusnes llwyddiannus. Mae’r Hwb Menter hefyd yn cefnogi busnesau sy‘n bodoli yn barod. Mae’r gefnogaeth yn lleol ac yn canolbwyntio ar gefnogaeth wyneb yn wyneb, agos atoch. Ymhlith y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig mae swyddfeydd cydweithio, cymuned o unigolion o’r un anian i rannu syniadau a chynnig anogaeth, cyngor busnes, ystod o ddigwyddiadau addysgol / cymdeithasol, Gofod Creu Ffiws, yn ogystal â rhaglen cychwyn busnes clodfawr Miwtini.
Mae Busnes Cymru yn helpu pobl, gan gynnwys pobl ifanc, i gychwyn, rhedeg a thyfu eu busnesau yn genedlaethol. Maent yn darparu cyngor, arweiniad ar gyllid, hyfforddiant, a chefnogaeth ar bopeth o syniadau newydd i gwmnïau sefydlog sydd yn tyfu. Maent hefyd yn helpu busnesau i gysylltu â’r rhwydweithiau a’r adnoddau sydd angen arnynt i lwyddo. Rhaglen Llywodraeth Cymru ydi Busnes Cymru ac rydym yn cydweithio gyda phartneriaid megis Business in Focus ac M-Sparc ac eraill i’w weithredu.
Bwrlwm Busnesau Bwyd
Mae’r sector bwyd ac amaeth yn bwysig i economi’r rhanbarth, ac mae Menter Môn wedi ychwanegu gwerth, datblygu cadwyni cyflenwi ac annog arloesedd yn y maes. Mae’n bwysig cadw’r gwerth hwnnw o fewn yr economi, ac drwy gynlluniau fel Larder Cymru rydym yn cydweithio â chyrff cyhoeddus i sicrhau bod cynnyrch Cymreig ar fwydlenni ysgolion ac ysbytai. Gyda bygythiadau newid hinsawdd a diogelwch bwyd, mae hefyd yn hollbwysig gallu addasu.
Arwain ar Arloesi
Mae technoleg yn trawsnewid ein bywydau a’n gweithleoedd, ac rydym yn sicrhau bod busnesau lleol yn elwa’n llawn o’r newid yma. Drwy fentrau megis Trefi SMART Cymru, rydym yn meithrin arloesedd digidol i adfywio strydoedd mawr, cryfhau cysylltedd, ac i roi mynediad i fusnesau at ddata a all eu helpu i ddeall eu cwsmeriaid yn well a gwneud penderfyniadau strategol sy’n seiliedig ar ddata (data-driven decision making).
Barod i gymryd y cam nesaf?
Os oes gennych chi syniad busnes neu os ydych yn chwilio am ffyrdd i dyfu, cysylltwch â ni ym Menter Môn heddiw. Gyda’n cefnogaeth, gall eich syniad – neu’ch busnes presennol – fynd o nerth i nerth.
📧 E-bost: ymholiadau@mentermon.com
📞 Ffôn: 01248 725 700
🌐 Gwefan: mentermon.com