Bydd strydoedd pump tref ar draws Ynys Môn yn dod yn fyw eto eleni wrth i filoedd o drigolion yr ynys gan gynnwys disgyblion, staff ysgolion, teuluoedd a mwy ymgynnull i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Rydym yn falch iawn o fod yn cydlynu’r gweithgareddau ac yn edrych ymlaen at wythnos o orymdeithiau lliwgar sy’n tynnu sylw at falchder yr ynys yn ei hiaith a’i diwylliant.
Bydd y gorymdeithiau’n cael eu cynnal rhwng 25 Chwefror a 3 Mawrth 2026 yn y lleoliadau canlynol:
• Amlwch – 25/2, 10am (yn cychwyn o faes parcio Stryd Salem)
• Llangefni – 27/2, 10am (yn cychwyn o faes parcio’r Dingle)
• Bodedern – 27/2, 10am (yn cychwyn o Ysgol Uwchradd Bodedern)
• Caergybi – 2/3, 10am (yn cychwyn o Eglwys Santes Fair)
• Porthaethwy – 3/3, 10am (yn cychwyn o faes parcio Cae Waun)

Bydd disgyblion o ysgolion ar draws yr ynys gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd yn cymryd rhan drwy gario baneri a chreu arddangosfeydd lliwgar sy’n adlewyrchu eu balchder tuag at ddiwylliant Cymreig a’r Gymraeg drwy ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ogystal â’r miloedd fydd yn cerdded, bydd ystod o fandiau ac artistiaid lleol, gan gynnwys enwau megis Gethin Tomos, Y Moniars, Blocosŵn, a Band Taro Canolfan Addysg y Bont yn perfformio ar gyfer plant wedyn. Bydd y cyfan yn ychwanegu at naws gwych y digwyddiadau.

Galwad i Fusnesau Lleol: Dewch â Lliw i’r Strydoedd
Rydym yn apelio ar berchnogion siopau a busnesau ar hyd llwybr y gorymdeithiau i ymuno yn y dathliadau drwy addurno eu ffenestri.
Mae croeso i bawb greu arddangosfeydd coch, gwyn a gwyrdd er mwyn ychwanegu at y weledigaeth fendigedig o falchder Cymreig a chroeso cynnes.

Dywedodd Huw Edward Jones, Rheolwr Cynlluniau Cymunedol Môn:
“Mae’r gorymdeithiau yma yn gyfle arbennig i bobl ifanc yr ynys ddangos eu balchder yn eu hunaniaeth Gymraeg.
“Ein pobl ifanc yw dyfodol cymunedau Môn, ac mae dod allan i’w cefnogi gyda chrysau, hetiau neu faneri gan ddod â ni oll ynghyd mewn dathliad o’n diwylliant a’n nawddsant.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda’n Rheolwr Cynlluniau drwy’r ebost yma: huw@mentermon.com

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac yn rhannol trwy un o raglenni Menter Môn, sef Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233