Byddwn yn cynnal digwyddiad cyffrous mewn partneriaeth â Lanotech Ltd ar y 6ed o Fawrth yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Y Bala. Ein bwriad yw dod â phobl ynghyd i ddathlu gwlân, archwilio arloesedd, a thrafod dyfodol y sector yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd dwy ran i’r digwyddiad:

Rhan 1 (1-5yh): Siaradwyr a phynciau allweddol

  • Sgyrsiau a chyflwyniadau gan amrywiaeth o arbenigwyr i drafod hanes y diwydiant, defnyddiau amgen, arloesedd a busnesau newydd o fewn y sector
  • Cyfle i holi paneli trafod am sefyllfa bresennol y diwydiant, ei ddyfodol, a’r cymorth sydd ar gael

Rhan 2 (5-7yh): Gweithdai ymarferol (addas i bawb- croeso i blant!)

  • Gweithdai amrywiol i amlygu’r hyn sy’n bosib â gwlân – o ffeltio, i liwio a gwehyddu – dan arweiniad crefftwyr talentog- Debbie Mercer, Paul Davies, Gillian Williams ac Olwen Ford
  • Gweithdy podlediad gyda Chwmni Pum Plwy Penllyn i gasglu hanesion am amaeth a gwlân, ynghyd ag arddangosfa i ddathlu traddodiad gweu sanau yn Y Bala hefyd

Bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y digwyddiad, yn ogystal â chyfle i rwydweithio â nifer o stondinwyr, gan gynnwys Amgueddfa Wlân Cymru, AberInnovation, Leather UK, Bulmer & Lumb ayyb.

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb ymuno â ni- cofrestrwch drwy glicio yma neu cysylltu â gwlan@mentermon.com . Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gefnogi’r digwyddiad hefyd, e.e. trwy ddod â stondin.

Rhaglen:

(Lawrlwythwch gopi yma)


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233