Teithiodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi i Gaerdydd yr wythnos hon i siarad am eu gwaith gyda chynllun ynni llanw Menter Môn Morlais mewn digwyddiad Gyrfa Cymru arbennig yn y Senedd.
Fel rhan o Seremoni Wobrwyo Partner Gwerthfawr, roedd y disgyblion blwyddyn 10 yn cynrychioli un o ddwy ysgol oedd wedi eu gwahodd i annerch gwesteion am eu prosiect Grym y Môr.
Gan weithio gyda ni, cafodd y bobl ifanc gyfle i ddylunio ac adeiladu prototeip o dyrbinau llanw eu hunain. Roedd y profiad yn caniatáu i’r disgyblion ddefnyddio eu sgiliau mewn lleoliad byd gwaith, yn ogystal â rhoi blas iddynt o dechnolegau ynni llanw a’r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y sector ynni adnewyddadwy.
Mae Gwobrau Partner Gwerthfawr Gyrfa Cymru yn dathlu sefydliadau sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i addysg gyrfaoedd a chyflogadwyedd ar hyd a lled Cymru. Diolch i’w gwaith trwy’r Her Gwaith Mewn Ffocws gydag Ysgol Uwchradd Caergybi, roedd Menter Môn Morlais yn fuddugol yn y categori Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net. Mae’r wobr yn cydnabod sefydliadau sy’n annog ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd mewn meysydd sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd a’r hinsawdd.
Dywedodd Lexi un o’r myfyrwyr oedd yn rhan o’r cynllun a’r daith i Gaerdydd:
“Mae gweithio efo Morlais a Gyfra Cymru wedi gwneud i’n gwaith deimlo’n bwysig ac yn werthfawr. Roedd gwybod bod pobl broffesiynol yn rhan o’r cynllun hefyd yn rhoi hyder i ni ac yn ein ysgogi ni fel tîm.
“Fe helpodd y project ni i feddwl yn fwy positif am y dyfodol a chodi ein gobeithion gan ddangos bod y sgiliau rydyn ni’n ddysgu yn yr ysgol yn gallu arwain at yrfa go iawn. “
Ychwanegodd Zalli Jones, Pennaeth Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Caergybi:
“Mae prosiect Morlais, Grym y Môr wedi caniatáu i ddisgyblion ymgysylltu â chyflogwyr ac academyddion i ddatblygu sgiliau a chysylltu yr hyn maen nhw yn ei wneud yn y dosbarth â byd gwaith. Mae’r bartneriaeth wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu mewn ffordd sy’n creu cyswllt uniongyrchol â llwybrau gyrfa’r dyfodol.
“Gyda Morlais dim ond ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd oddi wrth yr ysgol – mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn deall beth yw’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yma ar garreg eu drws.”
Ychwanegodd Fiona Parry, Rheolwr Buddion Cymunedol Menter Môn: “Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu ar gyfer y wobr hon gan Gyrfa Cymru eleni. Ond yn bwysicach fyth, mae’r disgyblion wedi cael y cyfle i ymweld â’r Senedd a siarad am eu gwaith yn y maes.
“Mae ein partneriaeth efo Ysgol Uwchradd Caergybi wedi bod yn bosibl diolch i Gyrfa Cymru a’u Her Gwaith Mewn Ffocws. Mae sicrhau ein bod yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent yn lleol a’u helpu i ddeall potensial yr economi werdd yma ar Ynys Môn yn bwysig iawn i ni, mae’r prosiect hwn wedi golygu ein bod wedi gallu gwneud hynny.“
Mae’r enwebiad gan Gyrfa Cymru yn cydnabod ein gwaith wrth gefnogi pobl ifanc Ynys Môn i ddysgu am gyfleoedd gyrfa yn y sector ynni adnewyddadwy. Mae hyn wrth gwrs yn cysylltu’n agos iawn gyda gweledigaeth ehangach Menter Món, sef datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau.