Ar Ragfyr 3ydd, daeth tîm Menter Môn ynghyd yn Neuadd y Dref, Llangefni, i rannu profiadau, derbyn diweddariadau, ac edrych yn ôl ar flwyddyn arbennig – yn ogystal ag edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn 2026. 

Roedd yr awyrgylch yn gynnes a chymdeithasol, gyda siwmperi Nadolig o bob lliw a llun, mins pei a phaned i greu naws Nadoligaidd!
Yn ystod y diwrnod, cawsom gyflwyniadau gan ein huwch dîm: 

  • Sioned Morgan Thomas, ein Cyfarwyddwr Corfforaethol, a roddodd ddiweddariadau defnyddiol i staff, gan gynnwys atgoffa am y buddion gwych sydd ar gael i bawb sy’n aelod staff yma’n Menter Môn. 
  • Dafydd Gruffydd, ein Rheolwr Gyfarwyddwr,  arweiniodd sesiwn ryngweithiol yn adlewyrchu ar uchafbwyntiau 2025, gan roi cyfle i staff rannu eu profiadau. 
  • Arweiniodd Bethan Fraser Williams, Cyfarwyddwr Prosiectau, sesiwn holi ac ateb gyda Sasha Davies am gyfleoedd newydd i’r portffolio economi, ynni a chymuned yn sgil datblygiadau diweddar yn Wylfa. 

I orffen y diwrnod mewn ffordd creadigol a hwyliog, cawsom fwynhau gweithdy addurniadau Nadolig gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailddefnyddio ac ailbwrpasu – diolch i’n tîm Cylchol am ysbrydoli pawb i greu rhywbeth unigryw a chynaliadwy. 

Roedd y prynhawn yn gyfle gwych i gysylltu, dysgu, a dathlu llwyddiannau’r flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at 2026 gyda brwdfrydedd a syniadau newydd! 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233