Wedi’i ysgogi gan lwyddiant feirol busnesau bwyd stryd fel ‘Spud Bros’ ac awydd ehangach am datws pob gyda llenwad o ffynonellau lleol, mae’r bwyd ysgol traddodiadol wedi dod yn un o’r bwydydd sy’n cael eu trafod fwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol – ac mae ysgolion Cymru yn manteisio arno.

Mae cysyniad newydd o’r enw Tŷ Tatws yn trawsnewid ffreuturiau ysgolion uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhain yn gweini tatws o ffynonellau lleol gyda’r math o frandio ac egni sy’n amlach yn gysylltiedig â lorïau bwyd y stryd fawr.

Mae “tai tatws” newydd sbon eisoes ar gael yn Ysgol Gymuned y Porth, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, ac mae disgyblion wedi ymateb yn gadarnhaol.Dywed Rachel Margetts, Dietegydd Arlwyo Ysgolion Rhondda Cynon Taf, fod y cysyniad eisoes wedi newid yr awyrgylch o amgylch amser cinio disgyblion.

“Roedden ni eisiau creu rhywbeth cyfoes, fforddiadwy a gwirioneddol gyffrous i bobl ifainc, rhywbeth sy’n teimlo’n fwy fel bwyd stryd na chiniawau ysgol traddodiadol, ond gan barhau i gynnig yr opsiwn mwyaf iach posibl,” meddai.
“Mae’r brandio llachar, y llenwadau ffres a’r seigiau arbennig dyddiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn wych.”

Meddai Rachel: “Dechreuon ni’r daith yma ein hunain, gan ganolbwyntio ar gynyddu faint o gynnyrch Cymreig sydd i’w gweld ar ein holl fwydlenni, ac yna daeth Larder Cymru i mewn i’n helpu i lansio’r cysyniad. Mae cefnogaeth y fenter yma wedi bod yn anhygoel. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu rhywbeth sy’n cefnogi ein disgyblion, cyflenwyr lleol a’r amgylchedd ehangach.”

Mae Tŷ Tatws wedi’i greu i wneud i fwyta’n iach deimlo’n fwy apelgar ac mae’n cynnig prydau arbennig dyddiol a bwydlen o lenwadau sy’n cylchdroi.
Mae modd i ddisgyblion ddewis o blith ffefrynnau cyfarwydd fel ffa pob a chaws neu lenwadau mwy sylweddol fel tsili neu gyw iâr barbeciw. Mae dewisiadau llysieuol ar gael bob dydd.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar y tatws eu hunain, yn ogystal â’r llenwadau. Mae pob taten yn cael ei thyfu yng Nghymru a’i chyflenwi gan AJ Carrington and Sons Ltd, gan deithio o fferm Gymreig i blatiau disgyblion ysgol. Mae hyn yn helpu i leihau milltiroedd bwyd, cefnogi ffermwyr lleol a chadw cynnyrch Cymru wrth wraidd pob pryd bwyd.

Mae’r syniad yn syml, ond mae’n adlewyrchu newid llawer ehangach yn y ffordd y mae’r rhanbarth yn ymdrin ag arlwyo mewn ysgolion.
Mae Tŷ Tatws hefyd yn rhan o Strategaeth Fwyd Cynaliadwy Taith Bwyd 2025–2030 RhCT, sy’n canolbwyntio ar brydau ysgol iachach, cadwyni cyflenwi cryfach yng Nghymru a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r fenter hefyd yn rhan o Gysyniad Bwyd Stryd ehangach Larder Cymru, a lansiwyd yn gynharach eleni i ddod â phrofiadau bwyta modern, cyflym i ysgolion uwchradd ledled Cymru. Yn hytrach na gofyn i ddisgyblion addasu i fformatau ffreutur traddodiadol, nod y prosiect yw bodloni eu gofynion nhw, gyda bwyd sy’n teimlo’n gyfoes, yn gyfleus ac yn apelgar, wrth ddal i fodloni safonau maethol uchel.
Mae David Wylie, Rheolwr Prosiect ym Menter Môn, yn credu bod Tŷ Tatws yn dangos sut mae modd i fwyd ysgol fod yn ymarferol ac yn ysbrydoledig.

“Y nod yw ei gwneud hi’n haws i ddisgyblion ddewis bwyd iach. Pan maen nhw’n gweld rhywbeth ffres, lliwgar sydd o ansawdd uchel, maen nhw’n llawer mwy tebygol o’i ddewis,” meddai.
“Mae Tŷ Tatws yn dangos sut y mae modd i gynnyrch Cymreig syml ddod yn gynnig bwyd stryd cryf wrth gefnogi cadwyni cyflenwi lleol a ffermwyr Cymru. Mae’n syniad syml, ond mae’n un sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Meddai’r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:
“Mae Tŷ Tatws yn enghraifft wych o sut mae modd i ni ailddychmygu prydau ysgol i adlewyrchu chwaeth a disgwyliadau ein pobl ifainc yn well, gan barhau i flaenoriaethu iechyd, cynaliadwyedd a chaffael lleol. Drwy gyfuno cynnyrch Cymreig o ansawdd uchel â dull ffres a modern, rydyn ni’n gwneud bwyd maethlon yn fwy deniadol a hygyrch. Mae’n galonogol gweld ymateb mor gadarnhaol gan ddisgyblion, ac mae’r fenter yma’n dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi lles disgyblion.

Gyda momentwm cynnar cryf, mae Tŷ Tatws yn dathlu cynnyrch Cymreig, gan gefnogi cymunedau lleol. Er bod y daten bob wedi bod yn bryd cyfarwydd ers tro, mae hi’n prysur ddod yn un o’r dewisiadau mwyaf poblogaidd ar fwydlen ysgolion Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Prydau Ysgol Ysgolion Uwchradd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233