Mae Gwnaed â Gwlân, prosiect Menter Môn sy’n canolbwyntio ar ddod â rhanddeiliaid Gwlân Cymru ynghyd i wireddu potensial gwlân, wedi dathlu digwyddiad  Gwnaed â Gwlân, hynod lwyddiannus yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, y Bala. Daeth y digwyddiad, a gafodd ei gynnal a’i drefnu mewn partneriaeth rhwng Menter Môn a LanoTech Cyf, â chynulleidfa fawr a brwdfrydig ynghyd i dynnu sylw at botensial cyfoethog sector gwlân Cymru, o’i dreftadaeth ddiwylliannol i’w rôl mewn diwydiannau cynaliadwy yn y dyfodol.
Fel rhan o’r rhaglen, dangosodd sylfaenydd LanoTech, Clodagh Weingart, waith arloesol y cwmni sy’n trawsnewid lanolin, y cynnyrch naturiol sydd mewn gwlân. Roedd yn ei ddangos fel dewis cynaliadwy yn lle olewau soi ac olew llysiau sydd mewn cynnyrch porthi anifeiliaid. Mae eu cynnyrch arloesol wedi dangos eu bod yn cynnwys ynni uwch a sefydlogrwydd gwell o’i gymharu ag olewau porthi arferol, gan amlygu llwybr newydd a cyffrous ar gyfer ychwanegu gwerth at wlân.
Roedd y digwyddiad Gwnaed â Gwlân yn cynnwys cyflwyniadau diddorol a thrafodaethau panel gan ffigurau blaenllaw yn y diwydiant, gan gynnwys athrawon o Brifysgol Leeds, yn trafod hanes y sector gwlân, datblygu cynhyrchion arloesol, defnyddiau amgen, yr heriau a’r cyfleoedd yn y dyfodol sy’n wynebu ffermwyr, gwneuthurwyr a busnesau. Cymerodd y mynychwyr ran mewn sesiynau trafod bywiog, gan ddangos awydd cryf i gydweithio ac i harneisio gwerth gwlân ar draws y gadwyn gyflenwi.
 Dywedodd Elen Parry, Rheolwr Prosiect Cylchol Menter Môn:
“Roedden ni wrth ein boddau yn gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd i ddathlu cyfoeth a photensial gwlân Cymru. Roedd y brwdfrydedd yn yr ystafell, o arbenigwyr yn y diwydiant i deuluoedd yn rhoi cynnig ar weithdai am y tro cyntaf, yn dangos pa mor gryf yw’r awydd am ddyfodol mwy cynaliadwy a chylchol.
“Mae gwlân yn adnodd rhyfeddol, ac mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i ailddychmygu ei werth wrth gryfhau’r cydweithrediadau a fydd yn llunio’r sector am flynyddoedd i ddod. Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae’r Clwstwr Gwlân yn ei gyflawni, ac yn gyffrous i barhau i adeiladu ar y momentwm hwn a’n partneriaeth gyda LanoTech.”
Drwy gydol y digwyddiad, roedd ymwelwyr yn gallu rhwydweithio â stondinwyr a sefydliadau gan gynnwys Amgueddfa Wlân Genedlaethol, AberInnovation, Leather UK, Bulmer & Lumb a Chwmni Pum Plwy Penllyn, a arddangosodd bopeth o grefftau traddodiadol i gynhyrchion arloesol. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys arddangosfa yn dathlu traddodiad gwau sanau hanesyddol y Bala, gan dynnu sylw at wreiddiau dwfn gwlân yn niwylliant a hunaniaeth yr ardal.
Roedd gweithdai creadigol a theuluol-gyfeillgar yn caniatáu i gyfranogwyr archwilio gwlân yn ymarferol, gan gynnwys ffeltio, gwehyddu, lliwio ac adrodd straeon trwy greu podlediadau gyda Chwmni Pum Plwy Penllyn. Dangosodd y gweithgareddau hyn amlochredd gwlân yn ogystal â’r sylfaen sgiliau ffyniannus sy’n dod i’r amlwg ar draws cymunedau yng Nghymru.
Dywedodd Clodagh Weinagart o LanoTech Cyf:
“Mae cydweithio â Menter Môn a’r prosiect Gwnaed â Gwlân / Made with Wool ar y digwyddiad yma wedi bod yn atgof pwerus o faint o botensial sydd o fewn sector gwlân Cymru. Mae’r angerdd, yr arloesedd a’r cydweithio a welsom yng Nglan-llyn yn dangos y gall gwlân chwarae rôl fawr wrth adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy a gwydn.
“Rydym yn falch o gefnogi gwaith sydd nid yn unig yn anrhydeddu treftadaeth gwlân ond sydd hefyd yn sbarduno technolegau a chymwysiadau newydd sy’n cadw’r adnodd naturiol yma i fynd ac i ffynnu yn gylchol.”
Mae llwyddiant digwyddiad Glan-llyn yn adlewyrchu’r datblygiad cynyddol yng Nghymru i gydnabod gwlan fel ased cenedlaethol sydd o bwysigrwydd diwylliannol ac economaidd. Mae Menter Môn a LanoTech yn estyn eu diolch i’r holl siaradwyr, partneriaid, stondwyr, arweinwyr gweithdai a mynychwyr y mae eu cyfraniadau wedi gwneud y dathliad yn foment sylweddol i’r sector.
Am ragor o wybodaeth am Glwstwr Gwlan, Cylchol neu ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â gwlan@mentermon.com.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233