Mae cynllun Cylch Peiriannu Menter Môn yn defnyddio dull arloesol a chydweithredol, wedi’i gynllunio i annog tyfwyr a ffermwyr i gynhyrchu mwy, gan roi mynediad iddynt at yr offer sydd ei angen arnynt heb iddynt orfod wynebu’r risg ariannol o brynu’r offer eu hunain.

Mae pedwar Partneriaeth Bwyd Leol – Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych – wedi dod ynghyd i geisio cynyddu cynhyrchiant garddwriaeth ar draws y rhanbarth. Eu nod yw cynyddu faint o gynnyrch lleol sy’n cael ei ddefnyddio yn y sector cyhoeddus, manwerthu a lletygarwch.

Gyda chefnogaeth Cynllun Grantiau Cydweithredol Llywodraeth Cymru, rydym yn galw ar ffermwyr a thyfwyr i ddod ymlaen a nodi pa beiriannau sydd eu hangen arnynt – o dractorau bach a hadwyr manwl, i beiriannau compostio ac offer cynaeafu.

Nod y cynllun yw dileu un o’r prif rwystrau sy’n wynebu cynhyrchwyr garddwriaeth ar raddfa fach a chanolig: y gost uchel o brynu offer yn syth allan.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Menter Môn, David Wylie:
“Drwy greu cronfa rannu o beiriannau sy’n hygyrch mewn ffordd hyblyg a chost-effeithiol, mae’r prosiect yn cynnig cyfle i ffermwyr sy’n dymuno amrywio neu ehangu eu gweithrediadau garddwriaeth heb risg ariannol sylweddol.

“Mae hwn yn gyfle i dyfwyr lunio’r cynllun o’r diwrnod cyntaf. Rydym eisiau clywed yn union pa offer sydd ei angen ac a fydd yn cael ei ddefnyddio. Mae’r model hwn yn cynnig ffordd ymarferol ac isel ei risg i fynd i mewn i’r sector garddwriaeth – ac ar adeg o ansicrwydd i’r sector, mae ganddo’r potensial i fod yn wir newid-chwarae.”

Mae’r fenter yn adeiladu ar gynlluniau peilot llwyddiannus diweddar – gan gynnwys cynllun cadwyn gyflenwi brocoli ffres Conwy – ac yn cyd-fynd â nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru megis y Strategaeth Bwyd Cymunedol, Sero Net Cymru, a Phrydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sy’n cynyddu’r galw am gynnyrch sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol.

Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda Chlwstwr Garddwriaeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Fwyd a Diod Cymru ac yn cael ei gefnogi gan Garddwriaeth Cyswllt Ffermio (Clwstwr Garddwriaeth), gan sicrhau bod tyfwyr yn gallu cael mynediad at gymorth technegol, datblygu sgiliau a rhwydweithiau’r diwydiant.

Dywedodd Debbie Handley, Arweinydd Clwstwr Garddwriaeth Cymru:
“Mae tyfwyr yn wynebu rhai o’r amodau gweithredu anoddaf ers degawdau, gyda chostau cynhyrchu cynyddol, heriau llafur a mwy o bwysau i fodloni galw marchnadoedd lleol.

“Mae’r Cylch Peiriannu yn cynnig rhywbeth hynod amserol ac ymarferol. Mae’n galluogi cynhyrchwyr i dreialu offer arbenigol, lleihau costau sefydlog, gwella effeithlonrwydd ac adeiladu hyder i amrywio i’r sector garddwriaeth neu gynyddu’u cynhyrchiant cyfredol.

“Bydd yn helpu busnesau newydd ac ymsefydlog i gryfhau eu gwydnwch ac i gyfrannu at system fwyd Gymreig fwy cynaliadwy a diogel. Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i’r sector garddwriaeth yng Ngogledd Cymru.”

Bydd y Cylch Peiriannu yn cael ei lunio gan fewnbwn tyfwyr a gaiff ei gasglu mewn cydweithrediad â Lantra, gan sicrhau mynediad teg a hyfywedd hirdymor. Bydd y prosiect hefyd yn archwilio cyfleoedd i gydweithio â chylchoedd peiriannu eraill yn y DU a modelau mentrau cymdeithasol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf.

Mae’r lansiad yn cyd-fynd â’r cyfnod olaf ar gyfer Cynllun Amrywio Amaethyddol a Garddwriaeth Llywodraeth Cymru, sydd ar agor tan 5 Rhagfyr. Mae’r cynllun yn cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr garddwriaeth sy’n dymuno sefydlu neu ehangu prosiectau amrywio a mentrau garddwriaeth fasnachol.

Am fwy o wybodaeth ac i awgrymu offer a pheiriannau, e-bostiwch bwyd@mentermon.com.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233