Rydan ni’n falch iawn ein bod wedi cael ein dewis i gynrychioli Cymru yn ystod Wythnos Rhyngwladol Pontio’r Cenedlaethau eleni. Dyma ymgyrch ryngwladol sy’n dathlu’r cysylltiadau cadarnhaol rhwng cenedlaethau ledled y byd.
Bydd yr wythnos sy’n digwydd rhwng 24-30 Ebrill 2026, yn dod â sefydliadau, cymunedau ac unigolion ynghyd i rannu arferion da, dysgu oddi wrth ei gilydd a chryfhau’r genhedlaeth nesaf o brosiectau pontio’r cenedlaethau. Heddiw,ar  y 4ydd o Chwefror rydym yn teimlo’n gyffrous o gael cyhoeddi ein bod yn cynrychioli Cymru.
Ar ran Cymru, byddwn ni, ym Menter Môn, yn arwain ar gydlynu straeon, gweithgareddau a digwyddiadau sy’n tynnu sylw at y gwaith rhagorol sy’n digwydd mewn cymunedau i bontio cenedlaethau a chreu cyswllt rhwng pobl.
 Yn ganolog i hyn mae ein prosiect, Ein Hanes Ni sy’n dod ag oedolion hŷn, pobl ifanc a chymunedau lleol ynghyd i rannu atgofion, darganfod hanesion coll, a dysgu oddi wrth ei gilydd mewn ffyrdd creadigol ac ystyrlon gan greu ffilm, taflen, neu gân am eu hardal.
Cydweithio gyda phartneriaid
Rydym hefyd yn awyddus iawn i gydweithio a chydweithredu gyda phartneriaid a sefydliadau ar draws Cymru sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau pontio’r cenedlaethau yn ystod yr wythnos ac o nawr tan hynny.
Dywedodd Aaron Morris, Swyddog Prosiect sy’n arwain ar yr wythnos a’r ymgyrch hon ar ran Menter Môn:
“Mae cael ein dewis i gynrychioli Cymru yn ystod yr wythnos yn anrhydedd enfawr ac yn adlewyrchu’r gwaith cysylltu cenedlaethau cryf sydd eisoes yn digwydd yma.
“Rydym yn falch iawn o’r effaith mae gwaith yn cael hyd yma. “Mae’r wythnos yn gyfle gwych i ddangos hyn i’r byd. Rydan ni’n awyddus iawn i gydweithio a chlywed gan sefydliadau eraill ac felly yn gobeithio byddant mewn cyswllt.”
Gwahoddiad
Rydym yn gwahodd sefydliadau, ysgolion, cynlluniau cymunedol, cartrefi gofal a mwy i gydweithio.
Maent yn gwahodd unrhyw grŵp yng Nghymru sydd eisoes yn cynnal gweithgareddau sy’n dod â gwahanol genedlaethau at ei gilydd neu yn dymuno trefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad fel rhan o Wythnos Pontio’r Cenedlaethau.
Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth, adnoddau a straeon ysbrydoledig o’u prosiectau Ein Hanes Ni a gweithgareddau ledled Cymru wrth i ni agosáu at yr wythnos.
Cysylltwch drwy anfon e-bost: ymholiadau@mentermon.com
(Llun wedi ei dynnu gan Kristina Banholzer)

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233