Mae cenhedlaeth newydd o arbenigwyr morol yn cael eu cefnogi i adeiladu gyrfaoedd yn lleol, gyda phenodi dau o ogledd Cymru i raglen interniaeth cynllun ynni llanw Menter Môn, Morlais.

Mae Amy Quaeck-Evans o Borthmadog a Siôn D’Arcy o Fangor, wedi ymuno â’r tîm yr wythnos hon trwy’r rhaglen ‘Interniaid Dyfodol Morol’. Wedi’i ariannu gan Ystad y Goron, y nod yw rhoi cyfle i’r rhai sy’n awyddus i gael gyrfa yn y maes i fagu profiad ymarferol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y sector forol.

I Menter Môn, mae’r pwyslais o sicrhau budd lleol yn ganolog i’w weledigaeth ar gyfer Morlais. Mae hynny yn golygu nid yn unig creu swyddi o safon yn y sector ynni adnewyddadwy, ond sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth groesawu Amy a Siôn i’r tîm, dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae Morlais wastad wedi bod ynglŷn â llawer iawn mwy na chynhyrchu trydan glân. Mae’n ymwneud â sicrhau bod manteision y cynllun yn cael effaith yma yng ngogledd Cymru – trwy swyddi, sgiliau a chyfleoedd hyfforddi.

“Rydym falch iawn o groesawu dau siaradwr Cymraeg talentog o’r ardal i’r tîm. Bydd y ddau yn cael profiad uniongyrchol o sector sy’n tyfu’n gyflym, wrth gymryd rhan mewn gwaith fydd yn cyfrannu at ddyfodol ynni llanw yng Nghymru.”

Ychwanegodd Dafydd: “Mae ceisio cadw pobl ifanc yng ngogledd Cymru o fudd i bawb. Mae’n cryfhau ein heconomi, yn cefnogi ein cymunedau ac yn helpu i warchod a thyfu’r iaith Gymraeg. Mae creu cyfleoedd fel hyn yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei wneud yn Menter Môn.”

Dywedodd Amy, a raddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Bioleg Forol ac Eigioneg: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu sgiliau ymarferol ac ehangu fy ngwybodaeth am faterion morol yng ngogledd Cymru a Môr Iwerddon trwy’r interniaeth yma. Mae hwn yn gyfle gwych, ac rydw i’n siŵr y bydd yn rhoi’r hyder a’r profiad rydw i eu hangen ar gyfer gyrfa lle fedrai gyfrannu at reoli a diogelu ein hamgylchedd.”

Ychwanegodd Siôn, a astudiodd y Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cwblhau gradd Meistr mewn Cadwraeth a Rheoli Tir ym Mhrifysgol Bangor: “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn, a rydw i yn falch o gael y cyfle i gyfrannu at brosiectau ymchwil amgylcheddol sy’n gysylltiedig â Morlais. Fel siaradwr Cymraeg, mae’r cyfle i ddatblygu a defnyddio’r iaith mewn awyrgylch broffesiynol a mor agos at adref yn golygu llawer i mi ac mae’n rhan werthfawr o’r interniaeth yma. Rydw i yn edrych ymlaen i ddechrau ar y gwaith.”

Mae’r rhaglen Dyfodol Morol yn cael ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac yn ogystal â Menter Môn, mae partneriaid yn cynnwys Ystâd y Goron, M-SParc, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n rhoi cyfleoedd i bol ifanc ddatblygu sgiliau arbenigol ar draws cadwraeth forol, ynni adnewyddadwy, polisi morol ac ymgysylltu cymunedol. Bydd Sion ac Amy yn rhannu eu hamser rhwng y partneriaid a bydd y cyfnod yn gorffen gyda chyflwyniad terfynol.

Mae Menter Môr Morlais yn rheoli 35km² o wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel. Gyda’r seilwaith ar y tir eisoes yn ei le mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr a dechrau cynhyrchu trydan o 2027.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233