Fe gafodd ffermwyr a thyfwyr ledled gogledd Cymru y cyfle i ddysgu mwy am gynllun rhannu peiriannau newydd yn Sioe Amaethyddol Môn eleni. 

Wrth i ffermwyr a busnesau gwledig ymgynnull ar Faes Sioe Môn ar gyfer prif ddigwyddiad amaethyddol y sir, roedd Menter Môn yn manteisio ar y cyfle i gyflwyno Cylch Peiriannau Gogledd Cymru i’r bobl y mae wedi’i greu i’w cefnogi. Bydd y cynllun yn rhoi mynediad i ffermwyr a thyfwyr at beiriannau garddwriaethol arbenigol drwy system archebu ar-lein, gan wneud yr offer ar gael ar draws y rhanbarth. 

Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Partneriaethau Bwyd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, ac mae’n cael ei rheoli gan Menter Môn. Y nod yw helpu i fynd i’r afael ag un o’r prif rwystrau sy’n wynebu cynhyrchwyr, sef cost uchel prynu peiriannau arbenigol. 

Drwy greu cronfa o offer i’w rhannu, mae’r rhaglen yn lleihau’r angen i fusnesau unigol wneud buddsoddiad sylweddol. Y gobaith yw y bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr a thyfwyr roi cynnig ar ddulliau cynhyrchu newydd, gwella effeithlonrwydd ac ehangu eu gweithgarwch, gan leihau’r risg ariannol ar yr un pryd. 

Wrth siarad yn y sioe, dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae Cylch Peiriannau Gogledd Cymru wedi’i ddatblygu mewn ymateb i’r heriau y mae tyfwyr wedi dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu. Mae Sioe Môn yn gyfle pwysig i ni siarad yn uniongyrchol â ffermwyr ac undebau amaethyddol am sut y gall y fenter weithio iddyn nhw. 

“Rydym yn gwybod y gall mynediad at offer arbenigol fod yn rhwystr gwirioneddol i fusnesau sy’n awyddus i arallgyfeirio neu ehangu cynhyrchiant garddwriaethol, felly mae cael y cyfle i drafod efo nhw â’r gymuned amaethyddol wyneb yn wyneb yn werthfawr iawn. 

“Drwy rannu peiriannau, gallwn helpu tyfwyr i leihau costau a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio gyda mwy o hyder. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â chefnogi mwy o gynhyrchu bwyd yn lleol a chryfhau’r sector yng ngogledd Cymru.” 

Mae’r Cylch Peiriannau hefyd yn cael ei ystyried yn ffordd o annog arallgyfeirio ar ffermydd, gwella gwydnwch busnesau bwyd-amaeth a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol. 

Ychwanegodd David Wylie, Rheolwr y Prosiect yn Menter Môn: “Roedd Sioe Môn yn gyfle gwych i ni gyflwyno’r Cylch Peiriannau i’r gymuned amaethyddol a chlywed gan dyfwyr am yr hyn sydd ei angen arnynt o’r cynllun. 

“Fe gawsom gyfarfod â ffermwyr, tyfwyr ac undebau amaethyddol yn y sioe, ateb cwestiynau a datblygu cysylltiadau fydd yn helpu ni i lywio sut bydd y Cylch Peiriannau yn gweithio’n ymarferol.” 

Bydd y platfform archebu ar-lein yn ar gael yr hydref hwn, gan alluogi ffermwyr a thyfwyr i archebu peiriannau arbenigol pan fydd eu hangen arnynt. 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233