Afonydd Menai

Diogelu’r boblogaeth llygod dŵr sydd mewn perygl yn afonydd Menai rhag y Minc Americanaidd.

Trosolwg

Ym mis Ionawr 2025, rhoddodd Afonydd Menai fenter newydd a chyffrous ar waith. Ar ôl blynyddoedd o drapio ar Ynys Môn, ynghyd â chynnal prosiectau adfer cynefinoedd i helpu i gysylltu poblogaethau ynysedig o lygod pengrwn y dŵr ar yr ynys, rydym wedi ymestyn i gwmpasu 1,500km2 o ogledd-orllewin Cymru.

Ein prif nod yw diogelu llygod pengrwn y dŵr yng ngogledd-orllewin Cymru a pharhau i alluogi ein poblogaeth arbennig i ffynnu. Rydym yn parhau i arolygu llygod pengrwn y dŵr er mwyn canfod poblogaethau ynysedig a rhoi gwybod i dirfeddianwyr eu bod yn bresennol er mwyn iddynt allu rheoli eu tir yn briodol, a hefyd rydym yn parhau i ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn tynnu sylw pobl at y mamal sy’n dirywio gyflymaf yn y DU.

Rhaid inni wneud mwy na phennu ble yn union y mae llygod pengrwn y dŵr i’w cael. Mae angen inni eu helpu. Mae angen inni fynd i’r afael â’r pethau sy’n eu bygwth. Un o’r prif fygythiadau sy’n eu hwynebu yw’r minc estron goresgynnol. Mae ardal y prosiect wedi cael ei hymestyn er mwyn inni allu mynd i’r afael â’r minc ar raddfa tirwedd a chael gwared â’r bygythiad a ddaw i ran llygod pengrwn y dŵr.

Mae’r minc yn rhywogaeth led-ddyfrol y daethpwyd â hi i’r DU yn y 60au ar gyfer ffermio ffwr. Ond cafodd nifer o fincod eu rhyddhau, ac ers hynny maent wedi ymledu ar hyd a lled y DU ac mae eu dosbarthiad erbyn hyn yn eang. Mae mincod yn helwyr eithriadol ac maent yn ysglyfaethu nifer o rywogaethau, ond maent yn fwyaf enwog am yr effaith a gânt ar lygod pengrwn y dŵr.

Mae llygod pengrwn y dŵr wedi addasu i oroesi gyda nifer o ysglyfaethwyr brodorol, ond mae mincod benywaidd a mincod ifanc yn ddigon bach i fynd i mewn i dyllau llygod pengrwn y dŵr, felly mae’n amhosibl i’n cyfeillion brodorol ddianc.

Nod y prosiect: Nod y prosiect hwn yw cael gwared â mincod trwy ddefnyddio trapiau a fydd yn eu dal yn fyw. Lleolir y mwyafrif o’n gorsafoedd ar rafftiau arnofiol sy’n cynnwys twnnel, ac oddi mewn i’r twnnel ceir trap. Rydym yn anelu at osod mwy na 100 o drapiau ledled ardal y prosiect, sy’n cynnwys Ynys Môn a Gogledd Gwynedd i gyd, gydag afon Conwy yn cynrychioli ein terfyn dwyreiniol a phen pellaf Pen Llŷn tua’r gorllewin.

Rydym wastad yn chwilio am dirfeddianwyr a gwirfoddolwyr newydd i gymryd rhan yn y prosiect hwn ac i’n helpu i sicrhau ei lwyddiant. Os oes gennych ddiddordeb yn ein prosiect, cofiwch gysylltu.

Gwybodaeth

Astudiaethau

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=V3pwWnyZ6J0]

Afon Gwyrfai

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=txwUaVkDHAM]

Gwarcheidwaid Afon Gwirfoddol

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=A3Jk6X8gY_Y]

Diwrnod Arolygu Llygod y Dŵr

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=jU4Ezxz6oGE]

Mink Police Unit

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...

01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233