Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi neu gyfleoedd canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â ni: 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com

 

Profiad Gwaith

Lleoliad:   Dyddiad Cau:  

Mae Menter Môn yn falch o gynnig cyfleoedd profiad gwaith i unigolion sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ein gwaith a datblygu eu sgiliau.

Ein gweledigaeth yw datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau. Fel rhan o hyn, rydym yn falch o gefnogi pobl i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.

Rydym yn cynnig cyfleoedd ar draws amrywiaeth o feysydd gwaith, gan gynnwys ein portffolios cymuned, economi ac ynni. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i archwilio ein gwefan er mwyn dysgu mwy am ein gweithgareddau a’r meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf iddynt.

Datgan Diddordeb

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cyfle profiad gwaith yn y dyfodol, cysylltwch gyda ni: AD-HR@mentermon.com

Diolch am eich diddordeb ym Menter Môn. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Ddogfennau

Canllawiau Sgiliau Iaith
Strwythur Cwmni
Buddion Staff


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233