Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol parthed unrhyw un o’r swyddi canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Lleoliad: Hybrid   Dyddiad Cau: 22/07/2025  

Ymunwch â’n tîm i arwain y ffordd wrth ddatblygu, gweithredu a goruchwylio marchnata a chyfathrebu strategol. Helpwch ni i dyfu ein brand, rhannu ein cenhadaeth, ac ymgysylltu â thimau mewnol, partneriaid allanol a’n cymunedau lleol.

Dyddiad cau: 12pm 22/07/2025

Dyddiad Cyfweld: 31/07/2025

Hyd Cytundeb: 12 mis gyda’r posibilrwydd o ymestyn
Cyflog: £38,843.23 – £48,175.00 + pensiwn buddion diffiniedig
Oriau: 37 awr yr wythnos. Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i geisiadau i weithio’n rhan-amser (ar sail pro rata).
Lleoliad : Hybrid (Cartref / Swyddfa – lleoliad y brif swyddfa yw Llangefni)

 

Swydd Ddisgrifiad Ffurflen Gais

Swyddog Cefnogol Hwb Menter (Cyfnod Mamolaeth)

Lleoliad: Hybrid (Cartref / Swyddfa - Gaerwen)   Dyddiad Cau: 13:00 28/07/2025  

Ymunwch â’n tîm fel Swyddog Cefnogi Hwb Menter a helpwch i bweru mentrau lleol drwy waith gweinyddol, digwyddiadau, cyfathrebu a chymorth i brosiectau.

Hyd cytundeb : Cyfnod Mamolaeth (hyd at 12 mis)
Cyflog: £25,704.22 – £29,988.90
Oriau: 37 awr yr wythnos

Lleoliad: Hybrid (Cartref / Swyddfa – lleoliad y brif swyddfa yw MSParc, Gaerwen, gyda’r angen i deithio i leoliadau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn)

Cyswllt am fwy o fanylion : Sara Roberts, Rheolwr Hwb Menter, 07920 280 595 / sara@mentermon.com

Swydd Ddisgrifiad Ffurflen Gais

Ddogfennau

Canllawiau Sgiliau Iaith
Buddion Staff
Strwythur


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233