Mae cymunedau Môn yn cael eu hannog i wneud cais am gefnogaeth ariannol o hyd at £5,000 a chymorth ymarferol i droi syniadau cychwynnol yn fenter all arwain at newid go iawn.
Yn dilyn llwyddiant gwreiddiol Balchder Bro dan arweiniad Menter Môn y llynedd, mae’r cynllun yn ôl, gyda’r nod o roi hyder i bobl gyflwyno cynlluniau sy’n dathlu’r hyn sy’n gwneud eu hardal nhw yn unigryw. Wedi ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd y pwyslais ar dathlu’r Gymraeg a hunaniaeth Môn trwy gynlluniau sy’n hybu balchder lleol.
Gydag ychydig dros wythnos nes y dyddiad cau, mae neges glir gan Catrin Jones, Rheolwr Cynlluniau Iaith a Chymuned ym Menter Môn: “Dyma gyfle gwych i gymunedau a grwpiau fanteisio ar gefnogaeth i wireddu syniadau all ddod a phobl a grwpiau amrywiol at ei gilydd. Gyda’r dyddiad cau ar y 8fed o Fehefin, rydyn ni am annog pobl i beidio ag oedi cyn cysylltu efo ni er mwyn gwneud cais. Gallwn ddarparu cefnogaeth ac arian i drefnu digwyddiad neu i greu rhywbeth sy’n dathlu ardaloedd ar hyd a lled yr ynys.
“Ein gobaith yw ysgogi trafodaeth am yr hyn sy’n gwneud pobl yn falch o’u cymuned nhw, a galluogi cymunedau i wireddu syniadau. Mae gan Menter Môn brofiad sylweddol o weithio ar lefel gymunedol, a’n gobaith yw rhoi’r profiad yma ar waith i helpu gyflawni prosiectau gwerth chweil.”
Un o’r cynlluniau dderbyniodd gymorth y llynedd oedd Gŵyl Gogogoch, Llanfairpwll. Dywedodd Bethan Môn un o’r trefnwyr: “Am y tro cyntaf ers talwm, cawsom digwyddiad cymunedol yn y pentref a oedd yn gyfle i ni ddod â phawb at ei gilydd, dathlu ein hunaniaeth Gymreig a chodi arian ar gyfer prosiect cymunedol. Heb y gefnogaeth ni fyddai hyn wedi bod yn bosib.”
I wneud cais am gefnogaeth mae ffurflen gais i ddatgan diddordeb ar gael wrth gysylltu gyda Sionedmc@mentermon.com. Bydd modd cael sgwrs gyda Sioned er mwyn symud y broses yn ei blaen.