Yr wythnos hon roedd Morlais, prosiect ynni llanw Menter Môn, yn falch iawn o groesawu cynrychiolaeth o Tsieina a Llywodraeth Cymru i ymweld gyda Is-orsaf Morlais. Roedd y cynrychiolaeth o Tsieina yn cynnwys arloeswr ac arweinydd y sector ynni llanw yn Tsieina – Lin Dong sef Prif Beiriannydd ‘LHD New Energy Corporation’, a deithiodd o Tsieina i ymweld â datblygiad Morlais.
Mae Cwmni ‘ LHD New Energy Corporation’ yn arwain ar ddatblygu y maes ynni llanw yn Tseina. Ac mae eu prosiect yn Xiushan yn un o’r rhai mwyaf blaengar yn y byd ac wedi cyflawni mwy na 60 mis o weithrediad parhaus. Fe gafodd Mr Lin gyfle i ymweld ag Is-orsaf Morlais, gan rannu arfer da a thrafod gyda’n tîm.
Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais:
“Roeddem wrth ein boddau yn croesawu Mr Lin a’i gydweithwyr a chynrychiolywyr o Lywodraeth Cymru i’r safle ac i gael y cyfle i rannu ein cynnydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae dysgu o brosiectau sydd eisoes wedi cyflawni llwyddiant hirdymor yn helpu i gryfhau ein huchelgeisiau ein hunain ar gyfer Ynys Môn”
Rhoddodd yr ymweliad gyfle i rannu trosolwg o gynllun ynni llanw Morlais, trafod llwybrau i ddatblygwyr, ac archwilio cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi leol. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i ddysgu mwy am brosiect arddangos llanw LHD a chyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd ar arloesedd ynni morol byd-eang.
Mae Menter Môn a Morlais yn falch iawn o greu cysylltiadau, cydweithio, a rhannu arfer da er budd yr amgylchedd a’r economi. Mae hyn hefyd yn dangos sut rydym yn flaengar ac yn arloesol yn y maes hwn.