Rydym yn dathlu tair degawd o wneud gwahaniaeth ar draws gogledd Cymru a thu hwnt eleni ac wedi cael dathliad cartrefol yn Neuadd y Dref, Llangefni neithiwr ar 16 Hydref.
O ailsefydlu’r wiwer goch ar Ynys Môn i ddatblygu cynllun ynni llanw cyntaf Cymru, cefnogi miloedd o fusnesau, hyrwyddo’r Gymraeg a grymuso cymunedau drwy brosiectau amrywiol – mae ein menter cymdeithasol wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad cymunedol ac economaidd y rhanbarth ers 1995.
Ar 16 Hydref daeth ein partneriaid, cynrychiolaeth o aelodau staff a chefnogwyr at ei gilydd yn Neuadd y Dref, Llangefni i ddathlu 30 mlynedd o weithgarwch arloesol.
Roedd y noson yn llawn atgofion, straeon ysbrydoledig, a dathliadau o’r effaith gadarnhaol rydym fel Menter wedi cael ar gymunedau a busnesau ledled Ynys Môn a thu hwnt. Elin Fflur oedd yn arwain y noson.
Dywedodd Dafydd Gruffydd, ein Rheolwr Gyfarwyddwr yma ym Menter Môn:
“Roedd hi’n braf cael cyfle i ddathlu llwyddiannau ac adlewyrchu dros y degawdau diwethaf yn y dathliad yn Neuadd y Dref, yng nghanol yr ynys.
“Rydan ni fel arfer hefo’n pennau i lawr, yn ceisio sicrhau a gweithredu’r prosiectau a’r meysydd gwaith er mwyn gallu parhau i gyflogi pobl leol ym Môn, Gwynedd a thu hwnt, hybu’r economi leol, cryfhau cymunedau yn ogystal â datblygu ynni gwyrdd.
“Braf felly oedd cymryd cam yn ôl yn ystod y noson arbennig iawn yma. Roedd yn gyfle i edrych yn ôl ar y daith hyd yma, ac i ddathlu gyda’r bobl sydd wedi bod yn rhan o’n stori a chyfrannu at bwy ydyn ni heddiw. Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, yn ddiolchgar iawn am y cydweithio gyda’n partneriaid ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.”
Fe gafodd y gynulleidfa wylio dangosiad cyntaf ffilm am hanes y cwmni o’r enw Ein Hanes Ni. Roedd yn y ffilm yn gyfle i unigolion rannu atgofion o Menter Môn dros y trideg mlynedd diwethaf.
Fe gafodd Dafydd Gruffydd a Gerallt Llewelyn, cyn Reolwr Gyfarwyddwr Menter Môn eu holi gan Elin Fflur mewn sgwrs yn ystod y digwyddiad cartrefol gyda naws debyg i Sgwrs Dan y Lloer.
Ers ei sefydlu, mae Menter Môn wedi denu dros £200 miliwn ar gyfer prosiectau cymunedol, economaidd ac amgylcheddol, gan gynnwys prosiectau fel Morlais, Llwyddo’n Lleol, Wiwerod Coch, Hwb Menter, Prosiect Cylchol, Grymuso Gwynedd, Balchder Bro, Ein Hanes Ni a llawer iawn mwy.