Byddwn yn cynnal digwyddiad cyffrous mewn partneriaeth â Lanotech Ltd ar y 6ed o Fawrth yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Y Bala. Ein bwriad yw dod â phobl ynghyd i ddathlu gwlân, archwilio arloesedd, a thrafod dyfodol y sector yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd dwy ran i’r digwyddiad:
Rhan 1 (1-5yh): Siaradwyr a phynciau allweddol
- Sgyrsiau a chyflwyniadau gan amrywiaeth o arbenigwyr i drafod hanes y diwydiant, defnyddiau amgen, arloesedd a busnesau newydd o fewn y sector
- Cyfle i holi paneli trafod am sefyllfa bresennol y diwydiant, ei ddyfodol, a’r cymorth sydd ar gael
Rhan 2 (5-7yh): Gweithdai ymarferol (addas i bawb- croeso i blant!)
- Gweithdai amrywiol i amlygu’r hyn sy’n bosib â gwlân – o ffeltio, i liwio a gwehyddu – dan arweiniad crefftwyr talentog- Debbie Mercer, Paul Davies, Gillian Williams ac Olwen Ford
- Gweithdy podlediad gyda Chwmni Pum Plwy Penllyn i gasglu hanesion am amaeth a gwlân, ynghyd ag arddangosfa i ddathlu traddodiad gweu sanau yn Y Bala hefyd
Bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y digwyddiad, yn ogystal â chyfle i rwydweithio â nifer o stondinwyr, gan gynnwys Amgueddfa Wlân Cymru, AberInnovation, Leather UK, Bulmer & Lumb ayyb.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb ymuno â ni- cofrestrwch drwy glicio yma neu cysylltu â gwlan@mentermon.com . Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gefnogi’r digwyddiad hefyd, e.e. trwy ddod â stondin.
