Daeth dros 1,000 o blant a phobl ifanc i ddathlu’r Gymraeg, diwylliant ac ymdeimlad o gymuned ar draws Ynys Môn wythnos diwethaf.
Dros gyfnod o bythefnos o ddathliadau, daeth mwy na 1,000 o ddisgyblion o 32 o ysgolion ledled Ynys Môn at ei gilydd mewn cyfres o orymdeithiau.
Fe gafodd y gorymdeithiau eu trefnu gan Menter Môn, er mwyn ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac i feithrin uned, balchder lleol a chysylltiad cryf â’r Gymraeg.
Ymunodd tua 1,150 o bobl ledled yr ynys â’r dathliadau ar hyd llwybrau’r gorymdeithiau, gan greu golygfeydd o liw, cerddoriaeth a balchder bro mewn pentrefi a threfi gan gynnwys Amlwch, Llangefni, Bodedern, Caergybi a Phorthaethwy.
Yn Amlwch ymunodd dros 300 o blant â’r orymdaith, tra yn Llangefni bu 350 o ddisgyblion yn cerdded ochr yn ochr â thua 400 o gefnogwyr. Ym Modedern a Chaergybi, daeth dros 600 o blant ynghyd rhwng y ddwy orymdaith, gyda chefnogaeth gref o’r gymuned, a gwelodd Porthaethwy bron 800 o blant yn llenwi’r strydoedd gyda’u baneri a’u balchder.
Mae’r gorymdeithiau yn un enghraifft o weithgaredd blynyddol sy’n bywysig iawn i Menter Môn.
Maent bron yn draddodiad bellach ac yn adlewyrchu egwyddorion y sefydliad gan gynnwys:
- Dathlu a chodi balchder yng ngwerthoedd a hunaniaeth cymunedau lleol
- Rhoi llwyfan i blant a phobl ifanc fynegi eu Cymreictod a’u creadigrwydd
- Cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol fywiog
- Dod â chymunedau at ei gilydd mewn ffordd agored, gadarnhaol a chynhwysol
Dywedodd Huw Edward Jones, Rheolwr Cynlluniau Cymunedol Môn:
“Mae gweld cannoedd o blant yn dod ynghyd dros bythefnos i ddathlu’r Gymraeg a’n diwylliant yn profi mor gryf yw’n cysylltiadau cymunedol ar yr ynys.
“Mae’r balchder, yr egni a’r undod a welwyd yn adlewyrchu gwir ysbryd Môn.
“Mae nifer o unigolion a sefydliadau i’w diolch gan gynnwys aelodau’r cyhoedd fu’n gwirfoddoli wrth stiwardio, Cwmni Alun Griffiths – Contractwyr
fu’n rhan greiddiol o lwyddiant y pythefnos, yr artistiaid fu’n diddanu a’r holl ddisgyblion fu’n gorymdeithio mor frwdfrydig.”
Mae Menter Môn yn cynnwys Menter Iaith ac mae’r digwyddiadau yma yn rhan o arlwy blynyddol y tím cymunedol sy’n arwain ar gynlluniau amrywiol, gan gynnwys Balchder Bro a’r Fenter Iaith.