Rydym wedi sefydlu tîm newydd i wneud y mwyaf o gyfleoedd lleol sy’n deillio o ddatblygiadau mawr sy’n dod i ranbarth gogledd Cymru.

Bydd y Tîm Buddion Lleol newydd, dan arweiniad Fiona Parry, yn adeiladu ar y gwaith a wnaed fel rhan o Morlais, prosiect Ynni Llif Llanw Menter Môn. Blaenoriaeth allweddol, yn ogystal â chynhyrchu ynni carbon isel, yw sicrhau bod gan bobl leol y sgiliau sydd eu hangen yn y sector ynni, yn ogystal â sicrhau bod busnesau lleol yn elwa o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Menter Môn a Morlais wedi gweithio’n agos gydag ysgolion, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor i ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf ac amlygu’r cyfleoedd. Fe gafodd y gwaith hwn gydnabyddiaeth y llynedd gyda gwobr gan Gyrfa Cymru.

Rydym hefyd wedi arwain ar waith helaeth o fewn y sector busnes ledled gogledd Cymru. Rydym yn credu, er mwyn i’r economi elwa o’r datblygiadau newydd, ei bod hi’n bwysig bod busnesau’n ymwybodol o’r cyfleoedd ac yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen i fanteisio’n llawn arnynt. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â rhaglenni eraill sy’n cael eu cyflawni gennym ym Menter Môn, megis yr Hwb Menter a Busnes Cymru.

Dywedodd Fiona Parry, Rheolwr Buddion Lleol ym Menter Môn:
“Dyma gyfnod cyffrous i Ynys Môn a’r rhanbarth ehangach, gyda datblygiadau fel y Porthladd Rhydd a Wylfa Newydd. Gyda’r tîm newydd, rydym yn gobeithio cefnogi eraill i gyflawni gwerth cymdeithasol ehangach.
”Mae sicrhau bod cynlluniau Menter Môn, fel Morlais wedi bod o fudd i’r ardal leol wedi bod yn flaenoriaeth erioed. Rydym wedi dysgu llawer dros y pum mlynedd diwethaf ac wedi sefydlu perthynas dda â’r sector addysg a busnesau ledled y rhanbarth.”

Mae’r tîm eisoes yn gweithio gyda phartneriaid eraill i gyflawni buddion cymunedol a lleol. Penodwyd Menter Môn yn ddiweddar i reoli’r gronfa budd cymunedol sy’n gysylltiedig â phrosiect Solar Porth Wen EDF ger Cemaes. Dosbarthwyd cyllid yn ddiweddar i ysgolion ac amrywiaeth o grwpiau lleol yn yr ardal.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Mae’r cwmni mewn sefyllfa unigryw i sicrhau bod cymunedau’n elwa o brosiectau mawr. ‘Rydym bob amser wedi gweithio’n agos gyda chymunedau ar brosiectau sy’n bwysig i bobl, boed yn amddiffyn y Llygoden Ddŵr neu’n cefnogi’r iaith Gymraeg.
“Gyda Morlais, fe wnaethom gymryd rôl y datblygwr ac rydym wedi cael profiad uniongyrchol o gyflawni prosiect mawr a’r her o gynnwys ac ymgysylltu â’r gymuned. Gyda’r Tîm Buddion Lleol newydd, rwy’n credu y gallwn ni gefnogi eraill i gyflawni ar ran y rhanbarth.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233