Mae cyfnod prysur o flaen criw Ffiws Porthmadog, wrth i ni gynnal amrywiaeth o weithdai yn Hwb Arloesi dros gyfnod yr haf.

Mae’r mwyafrif o weithdai yn addas ar gyfer plant 6+, a bydd tâl o £3.

Bydd ein gweithdai arferol yn parhau i fod yn agored i’r gymuned gyfan, a bydd tâl o £5.

Gofynnwn i rieni/gwarchodwyr aros drwy gydol y gweithdai.

Mae archebu lle yn hanfodol gan fod niferoedd cyfyngedig ar gael: cysylltwch â gwynedd@mentermon.com / 01248 858 845

 

Gweithdai i blant- £3 y plentyn

 

GWEITHDY RHOI BYWYD NEWYDD I HEN GRYS T

28/07- 10:00-12:00

  • Dylunio crys-t eu hunain
  • Paentio darlun neu batrwm unigryw â paent, ffeltpens neu chreyon
  • Defnyddio gwasg gwres i drosglwyddo’r darlun i’r crys-t.
  • Dewch â’ch crys-t eich hun

 

GWEITHDY RHOI BYWYD NEWYDD I GRYS T GWYN

28/07- 13:00-15:00

  • Bydd plant yn dysgu sut i ailddefnyddio eu crysau T gwyn hen gan ddefnyddio lliwiau llachar a technegau creadigol ‘Tie Dye’.
  • Dewch â chrys-T gwyn a ffedog

 

GWEITHDY CREU CES SBECTOL HAUL WEDI EI BERSONOLEIDDIO

31/07- 10:00-12:00

  • Cyfle i ddefnyddio peiriant gwnio (dim angen profiad blaenorol)

 

GWEITHDY CREU CAS PENSILIAU WEDI EI BERSONOLEIDDIO

14/08- 10:00-12:00

  • Ailgylchu defnydd
  • Cyfle i blant ddefnyddio peiriant gwnîo (dim angen profiad blaenorol)

 

GWEITHDY CREU GOLYGFA ‘O DAN Y MÔR’

19/08- 10:00-12:00 & 13:00-15:00

  • Gweithdy hwyliog lle bydd plant yn creu golygfa arbennig trwy ailgylchu deunyddiau amrywiol
  • Dewch â bocs esgidiau a ffedog

 

GWEITHDY CELF CARDFWRDD; CREU COEDWIG TYLWYTH TEG

26/08- 10:00-12:00 & 13:00-15:00

  • Creu coedwig fechan hyd gan ddefnyddio cardfwrdd wedi’i ailgylchu
  • Dysgu sut i droi deunyddiau dyddiol yn rhywbeth gwirioneddol swynol.
  • Dewch â carddfwrdd a ffedog!

 

Gweithdai agored i bawb (plant ac oedolion)- £5 y sesiwn

 

Sesiwn gyda Wyn y Technegydd

25/07, 01/08, 08/08, 15/08, 22/08, 29/08

Sesiynau’n cychwyn am 9:00, 10:30, 13:00, 14:30 ac yn llenwi’n gyflym

Yn Ffiws, mae’n bosib i chi weithio ar brosiectau newydd neu presennol, cael hyfforddiant argraffu laser ac offer 3D, prototeipio’ch cynnyrch, arbrofi a datblygu syniadau. Mae’r rhain yn sesiynau 1.5 awr, gyda thâl o £5 yn ddyledus, ac yn agored i hyd at 5 unigolyn.

 

GWEITHDY BEICS: CYNNAL A CHADW

12/08- 10:00-16:00

Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y dydd i dderbyn cyngor a chymorth ar sut i gadw’ch beic / beic pedlo plant mewn cyflwr da.

 

CAFFI TRWSIO

23/08- 10:00-16:00

Mae’r caffi trwsio yn gyfle perffaith i chi alw mewn am y tro cyntaf i weld beth gallwn gynnig i chi. Bydd nifer o dechnegwyr profiadol yno i’ch addysgu a chynorthwyo i drwsio dillad, beics, gemwaith ac eitemau eraill. Dewch draw i ddweud helo!

 

Cofiwch gysylltu â gwynedd@mentermon.com / 01248 858 845 i archebu’ch lle!


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233