Prosiect ynni llif llanw Menter Môn yw Morlais. Mae’n rheoli ardal o 35Km² o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel.
Yr wythnos yma, teithiodd Prif Weithredwr Morlais a Chyfarwyddwr Ynni Menter Môn, Andy Billcliff, i Japan i gymryd rhan yn 13eg Gyngres Môr y Byd, digwyddiad rhyngwladol blaenllaw sy’n canolbwyntio ar ddyfodol ein cefnforoedd.
Mae Cyngres Môr y Byd wedi dod yn blatfform byd-eang hanfodol, gan ddod â’r arbenigwyr gorau, llunwyr polisi ac arweinwyr y diwydiant ynghyd i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf dyrys sy’n wynebu ein moroedd. Mae thema eleni, “Dyfodol Cynaliadwy i’n Cefnforoedd,” yn tynnu sylw at yr angen brys am gydweithio ac arloesi i amddiffyn ecosystemau morol wrth hyrwyddo’r economi.
Cafodd Andy Billcliff y cyfle i gyfrannu ei arbenigedd ar ddatblygu ynni llanw, yn y gynhadledd yn Osaka, Japan, gan rannu mewnwelediadau o’n prosiectau arloesol yng Nghymru.
Mae hyn yn pwysleisio ymrwymiad Cymru i ynni adnewyddadwy ac atebion morol cynaliadwy a sut mae Menter Môn ar flaen y gad o ran datblygu ac arloesi ynni gwyrdd gyda’r nod o fod o fudd i’r economi a’r gymuned leol drwy ddarparu swyddi newydd, cytundebu cyflenwyr lleol, darparu profiadau ac wrth gwrs cynhyrchu ynni carbon isel.
Dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Morlais:
“Dyma gyfle gwych i arddangos arweinyddiaeth Cymru mewn ynni llanw ac i ddysgu gan arloeswyr byd-eang. Mae cydweithio yn allweddol i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i’n moroedd.”
Mae cynrychiolaeth Menter Môn yn y gynhadledd fawreddog hon yn adlewyrchu ein ymdrech barhaus i yrru prosiectau ynni adnewyddadwy ymlaen a hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol ledled Cymru a thu hwnt.
Os hoffech ddysgu mwy am Morlais: Stori Morlais | Morlais