Mae cynlluniau i ddatblygu safle cynhyrchu hydrogen ar gyfer gogledd Cymru wedi cymryd cam pwysig ymlaen diolch i bryniant tir ychwanegol i ymestyn safle presennol Hwb Hydrogen Caergybi.

Fel rhan o broses y rhanbarth i drawsnewid i ynni carbon isel a seilwaith cynaliadwy, mae’r safle bellach yn cynnwys 24 erw ym Mharc Cybi, Caergybi.

Mae datblygiad yn cynnwys dau brif safle, gyda chaniatâd cynllunio eisoes yn ei le ar gyfer electrolysydd 1MW ar safle gwreiddiol Hwb Hydrogen Caergybi. Mae’r ail safle newydd yn llawer mwy, a gyda’r potensial i gynyddu faint o hydrogen sy’n cael ei gynhyrchu yn y dyfodol yn sylweddol.

Tra bod yr ail safle’n cael ei ystyried ar gyfer datblygiad pellach mae datblygwr yr Hwb, sef Menter Môn, yn pwysleisio bod hyn yn amodol ar ganiatad cynllunio ac ymgynghori â rhanddeiliaid lleol.

Yn ôl Graham Morley, Rheolwr Prosiect Menter Môn: “Mae hon yn garreg filltir allweddol ar gyfer dyfodol ynni glân yng ngogledd Cymru. Mae ehangu safle Hwb Hydrogen Caergybi yn rhoi’r cyfle i ni gynllunio ar gyfer canolfan fwy, a allai gynhyrchu pump i ddeg gwaith mwy o hydrogen gwyrdd. Gallai hynny wedyn bweru trafnidiaeth, diwydiant a swyddi lleol am flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Rydyn ni’n  falch o fod yn arwain y prosiect hwn gyda’n partneriaid, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol o’r angen i dyfu mewn ffordd gyfrifol, gam wrth gam. Mae’n ddyddiau cynnar o ran y safle newydd, a byddwn yn cynllunio unrhyw ddatblygiad yn ofalus trwy ymgynghori gyda’r gymuned a’n rhanddeiliaid.”

Fel rhan o bortffolio ynni Menter Môn, bydd Hwb Hydrogen yn chwarae rhan allweddol wrth ddatgarboneiddio trafnidiaeth a diwydiant yng ngogledd Cymru, gan gefnogi twf economaidd lleol a chyfrannu at dargedau sero net cenedlaethol. Mae Menter Môn yn parhau i weithio’n agos gyda llywodraeth, diwydiant, a phartneriaid cymunedol i sicrhau bod yr hwb yn dod a budd lleol dros yr hir dymor.

Graham Morley a Dafydd Gruffydd o Menter Môn

Ynys Gybi; safle’r Hwb Hydrogen

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233