Rydym yn falch o fod yn rhan o Fforwm Iaith Ynys Môn ac yn cydlynu Ogi Ogi drwy ei gynllun Balchder Bro.

Rydyn ni a Fforwm Iaith Ynys Môn yn annog rhieni newydd i ddechrau ar eu taith iaith gyda’r ap am ddim, OgiOgi.

Nod OgiOgi ydi cefnogi rhieni newydd a gofalwyr plant ifanc i gyflwyno’r Gymraeg mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae’n cynnig:

• Hwb gwybodaeth: Iechyd, lles a’r Gymraeg
• Hwb hwyl: Adloniant Cymraeg yn cynnwys caneuon, rhestrau chwarae a fideos
• Grwpiau yn dy ardal di: Grwpiau a digwyddiadau i deuluoedd

“Un o flaenoriaethau Fforwm Iaith Ynys Môn ydi helpu teuluoedd ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd”, meddai Annest Rowlands, sy’n gweithio i hyrwyddo’r ap a manteision defnyddio’r Gymraeg gyda rhieni newydd ar ran Menter Môn. “Mae OgiOgi yn cyflwyno rhieni i’r iaith mewn ffordd hwyliog, a’r ap yn hwyluso a chefnogi eu taith.”

Mae’r ap yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho o’r mannau arferol ac yn llawn adnoddau i’ch helpu roi’r Gymraeg yn anrheg i’ch plentyn. Gallwch hefyd gysylltu efo Annest i wybod mwy trwy Facebook ac Instagram OgiOgi, neu e-bostio OgiOgi@mentermon.com.

Caiff Balchder Bro ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – rhaglen sy’n grymuso cymunedau i wireddu syniadau sy’n creu balchder lleol. Gall y syniadau hyn gynnwys digwyddiadau, prosiectau celf, garddi cymunedol neu weithgareddau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth Ynys Môn, fel OgiOgi. Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth ariannol ac ymarferol i grwpiau wireddu eu gweledigaeth.
Dechreuwch eich taith iaith heddiw trwy lawrlwytho OgiOgi!

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233