Mae Menter Môn yn falch o gyhoeddi cynnig newydd cyffrous yn Neuadd y Dref Llangefni, sy’n darparu cyfle i fusnesau gael cyfeiriad proffesiynol a mynediad at ystod eang o wasanaethau a chymorth drwy denantiaeth rithiol hyblyg. 

Mae’r cynnig newydd yma wedi ei greu er mwyn cefnogi busnesau lleol, unigolion hunangyflogedig a chwmnïau sy’n chwilio am bresenoldeb proffesiynol mewn lleoliad canolog, heb yr angen am ofod swyddfa llawn amser. 

Cyfeiriad busnes a gwasanaethau hyblyg 

Drwy’r tenantiaeth rithiol, gall busnesau fanteisio ar gyfeiriad busnes cofrestredig yn Neuadd y Dref, gan gryfhau eu delwedd broffesiynol. Mae gwasanaethau ychwanegol ar gael, gan gynnwys: 

  • Gwasanaeth post – casglu neu sganio a danfon eitemau ymlaen 
  • Sgrinio galwadau ffôn a throsglwyddo negeseuon 
  • Mynediad i ystafelloedd cyfarfod a’r neuadd gyda gostyngiadau 
  • Cyfleusterau desg boeth gyda chyfraddau dyddiol hyblyg 

Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys mynediad at gyfleusterau modern, gan gynnwys WiFi cyflym, lleoliad diogel a pharcio cyfleus. 

Cymorth a chefnogaeth busnes gan Menter Môn 

Yn ogystal â’r cyfleusterau fel cyfeiriad i’ch busnes, bydd tenantiaid rhithiol yn cael mynediad at gymorth busnes gwerthfawr gan dîm Menter Môn. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Cyngor ac arweiniad gan Ymgynghorwyr Busnes 
  • Sgyrsiau rheolaidd gyda’r tîm Cymorth Busnes 
  • Cyfleoedd i ymuno â sesiynau rhwydweithio 
  • Mynediad at weminarau a gweithdai hyfforddi 
  • Cymorth gyda marchnata a hyrwyddo 

Mae’r cyfuniad hwn o gyfleusterau a chymorth yn rhoi sylfaen gadarn i fusnesau ddatblygu a thyfu. 

Mannau gweithio hyblyg 

Fel rhan o’r cynnig, mae rhywfaint o ofod swyddfa ar gael ar ail lawr Neuadd y Dref i’w ddefnyddio fel desgiau sydd ar gael i’w llogi am y dydd. Mae cyfraddau hyblyg ar gael, gan gynnwys opsiynau hanner diwrnod a diwrnod llawn, gan ddarparu ateb ymarferol i’r rhai sydd angen lle i weithio o bryd i’w gilydd. 

Er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch y gwasanaeth, dim ond busnesau sydd wedi cwblhau’r broses wirio ac sydd wedi llofnodi cytundeb tenantiaeth rithiol fydd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn. 

Diddordeb? 

Mae’r cynnig eisoes yn denu diddordeb. 

Gall busnesau sydd â diddordeb yn y Tenantiaeth Rithiol gwblhau’r ffurflen datgan diddordeb drwy’r ddolen ganlynol: 
Linc

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Menter Môn ar: 📧 post@mentermon.com
📞 01248 725700 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233