Afonydd Menai

Diogelu’r boblogaeth llygod dŵr sydd mewn perygl yn afonydd Menai rhag y Minc Americanaidd.

Trosolwg

Mae prosiect Bioamrywiaeth Afonydd Menai yn ceisio ymateb i’r bygythiad y mae’r minc Americanaidd yn ei beri i fioamrywiaeth ar Ynys Môn. Heb ymyrraeth, gallai’r ysglyfaethwr anfrodorol hwn arwain at dranc llygod y dŵr ar yr ynys. Bydd y prosiect hwn yn cydweithio â chymunedau bob ochr i Afon Menai ac yn sefydlu rhwydwaith o Warcheidwaid Afonydd i weithredu rhaglen o fonitro, ymgysylltu a rheoli i sicrhau bod Ynys Môn yn parhau i fod yn lloches i rywogaethau a warchodir.

Menter Môn fydd yn gyfrifol am y prosiect a fydd yn para 2 flynedd, sy’n cynnwys 12 o ddalgylchoedd afonydd gwahanol ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd. Gweithredir rhaglen o weithgareddau trwy gydol y prosiect fydd yn cynnwys diwrnodau arolygon bioamrywiaeth afonydd, sgyrsiau a theithiau tywys. Lleolir camerâu ar y llwybrau fydd yn tynnu lluniau bywyd gwyllt ar yr afonydd, yn y gobaith o addysgu a chyffroi pobl leol ynghylch rhywogaethau cynhenid. Cyflawnir hyn drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Y nod fydd ceisio ennyn diddordeb y cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar fywyd gwyllt ar lannau afonydd.

Gwybodaeth

Astudiaethau

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=V3pwWnyZ6J0]

Afon Gwyrfai

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=txwUaVkDHAM]

Gwarcheidwaid Afon Gwirfoddol

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=A3Jk6X8gY_Y]

Diwrnod Arolygu Llygod y Dŵr

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=jU4Ezxz6oGE]

Mink Police Unit

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...

01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233