Cwlwm Seiriol

Galluogi trigolion Ardal Seiriol i wella eu hamgylchedd naturiol a’u hiechyd trwy wneud gwaith cadwraethol. 

Trosolwg

Mae Cwlwm Seiriol yn un o chwech o brosiectau sydd wedi derbyn arian trwy rhaglen newydd Y Loteri Fawr ‘Creu eich Lle’.  Bwriad y rhaglen hon yw rhoi cyfle i gymunedau benderfynu sut i warchod a gwella eu hamgylchedd naturiol leol mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw ac yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

Erbyn 2023 mae’r prosiect yn gobeithio cyflawni’r canlynol:

  • Mae cymunedau o fewn Ward Seiriol yn teimlo’n fwy hyderus ac yn ymroddedig i reoli eu mannau gwyrdd lleol.
  • Mae mwy o gydlyniad o fewn cymunedau lleol gyda phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr a busnesau wedi bod yn rhan weithgar yn y prosiect.
  • Adfer ward Seiriol gan gynnwys cysylltu mannau agored drwy rwydwaith o goridorau a llwybrau troed.
  • Bod cymunedau’n manteisio ar y mannau agored sydd o’u cwmpas mewn perthynas â lles corfforol a meddyliol.

 

Mae’r ward yn cynnwys yr asedau ffisegol canlynol:

  • 50 erw o gronfeydd wrth gefn, 40 ohonynt yn Warchodfeydd Natur Lleol dynodedig
  • 60 erw o diroedd cyffredin heb eu rheoli
  • 23km o Lwybr Arfordirol trwy arfordir dynodedig yr AHNE
  • Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (NWWT) Mariandyrys o 6.75 Ha
  • Pafin Bwrdd Arthur
  • Coed y Brenin Llangoed
  • Ardaloedd mwnt a beili Aberlleiniog
  • 5km o gefnffyrdd sy’n addas ar gyfer creu coridorau bioamrywiaeth

 

Grŵp Llywio Cwlwm Seiriol

Mae grŵp llywio Cwlwm Seiriol yn cynnwys 14 o unigolion o’r ardal leol. Fe’u recriwtiwyd gan ddefnyddio proses ddethol agored ac maent yn meddu ar ystod o ddiddordebau a sgiliau sy’n adlewyrchu amcanion prosiect Cwlwm Seiriol.

Aelodau o Grwp Llywio Cwlwm Seiriol

 

Cylchlythyr Cwlwm Seiriol

Cliciwch yma ar gyfer Cylchlythyr 1af Cwlwm Seiriol.

 

Gwybodaeth

Astudiaethau

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=bCNewMOD1BE]

Rhagnodi Gwyrdd Aberlleiniog

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=LfbB0SBjo1Y&w=560&h=315]

Cwlwm Cerdded Biwmares

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=0gqziPRNSio]

Rowlio Rhedyn

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=Gd8FpQ2RF40&w=560&h=315]

Dathlu ein Gwirfoddolwyr

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=vfAee_Zr5aw&w=560&h=315]

Astudiaeth Achos Cwlwm Seiriol – Carol Hughes

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=clRkDk8eqsk&w=560&h=315]

Cwlwm Seiriol – Cymraeg

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=y9pt4yd7yjM&w=560&h=315]

Cwrs Gwirio Stoc Cwlwm Seiriol 2

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=SCTId4Ahxrg&w=560&h=315]

Cwrs Gwirio Stoc Cwlwm Seiriol

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=sVIMFhvkuN4&w=560&h=315]

Diwrnod Gwirfoddoli Cwlwm Seiriol

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=EGe8FjNrhBs&w=560&h=315]

Bioblitz Llanddona

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=IUWvCRJIRAY&w=560&h=315]

Cwlwm Seiriol – Simon Hunt (Coed Cymru)

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233