Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â ni: 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com

Rheolwr Cynlluniau Cymunedol (Môn)

Lleoliad: Hybrid (Lleoliad y brif swyddfa yw Llangefni)   Dyddiad Cau: 9 y.b 06/10/2025  

Swydd Newydd: Rheolwr Cynlluniau Cymunedol (Môn)

Oes gen ti’r sgiliau i ddatblygu’r Gymraeg a’r ymdeimlad o falchder ar draws yr Ynys?  Mae Menter Môn yn chwilio am arweinydd i lywio prosiectau ieithyddol a chymunedol ar Ynys Môn.

 

Hyd Cytundeb: Swydd dros dro tan Fawrth 2027

Cyflog: £38,843 – £48,175 + pensiwn buddion diffiniedig

Oriau: 37 awr yr wythnos

Lleoliad: Hybrid (Lleoliad y brif swyddfa yw Llangefni)

 

Dyddiad cau: 9 y.b 06/10/2025

Dyddiad Cyfweld: 15/10/2025

 

Am ragor o wybodaeth gellid cysylltu gyda Elen Hughes, Cyfarwyddwr Prosiect, elen@mentermon.com

Swydd Ddisgrifiad Ffurflen Gais

Aelod Bwrdd Menter Môn ac Annog

Lleoliad:   Dyddiad Cau: 12yp 07/11/2025  

Rydym yn chwilio am aelodau bwrdd newydd. Un nod sydd wrth wraidd pob gweithgaredd yma ym Menter Môn, datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau. Rydym wedi cydweithio gyda chymunedau, busnesau, y sector gyhoeddus ac unigolion i greu a gweithredu prosiectau arloesol am drideg o flynyddoedd. Oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o hyn drwy fod yn aelod bwrdd? Diddordeb cyfrannu at ddyfodol cymunedau? Ymgeisiwch i fod yn aelod bwrdd.

Ffurflen gais ar-lein ar gael yma neu fel dogfen Word isod.

Swydd Ddisgrifiad Ffurflen gais

Ddogfennau

Canllawiau Sgiliau Iaith
Buddion Staff
Strwythur


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233