Mae adroddiad newydd Arfer Gorau Larder Cymru yn amlygu sut mae dulliau arloesol o ddarparu bwyd ysgol yn helpu i gynyddu’r defnydd o gynnyrch Cymreig mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Trwy beilot Bwyd Stryd Cynnyrch Ffres Larder Cymru, bu awdurdodau lleol, ysgolion, timau arlwyo a chyflenwyr yn cydweithio i ddatblygu cynigion bwyd iachach a mwy deniadol sy’n adlewyrchu dewisiadau pobl ifanc, tra’n cefnogi cynhyrchwyr lleol a chadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy.
Mae’r adroddiad yn rhannu enghreifftiau o Wynedd, Torfaen, Bro Morgannwg, Caerffili a Rhondda Cynon Taf, gan ddangos sut y gall bwydlenni wedi’u hysbrydoli gan fwyd stryd, ymgysylltu â disgyblion a brandio cryf drawsnewid profiad amser cinio mewn ysgolion. Mae hefyd yn tynnu sylw at y gwersi a ddysgwyd drwy’r peilot a’r effaith gadarnhaol y gall bwyd Cymreig ei chael ar les dysgwyr, economïau lleol a chynaliadwyedd y system fwyd ehangach.
Darllenwch yr adroddiad isod.